Cym | Eng

Newyddion

Wythnos Addysg Oedolion 2025

Date

15.09.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rhwng 15 a 21 Medi mae’n Wythnos Addysg Oedolion 2025. I ddathlu, rydym yn tynnu sylw at y proffesiwn gwaith chwarae trwy rannu gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae a sut i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch hyfforddiant mewn gwaith chwarae.

Fe welwch chi amrywiaeth o adnoddau ar ein gwefan sy’n ymdrin â phob agwedd ar chwarae a gwaith chwarae. Dyma ein dewisiadau i’ch helpu i ddysgu mwy a datblygu eich gyrfa gwaith chwarae: 

  • Beth sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae? os ydych yn ystyried gyrfa mewn gwaith chwarae, neu’n awyddus i ddarganfod mwy, dysgwch beth mae’n ei olygu i fod yn weithiwr chwarae yn y fideo byr hwn.
  • Fideo byr Gofalwn Cymru – astudiaeth achos o weithiwr chwarae, gyda chyfraniadau gan weithwyr chwarae sy’n gweithio mewn sesiwn mynediad agored cymunedol yn Rhondda Cynon Taf.
  • Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru – llyfryn sy’n cynnwys trosolwg o’r cymwysterau sydd ar gael.
  • Dewch inni siarad am chwarae – cwrs hyfforddiant wedi’i ardystio gan Chwarae Cymru sy’n cynnig cyflwyniad i chwarae a gwaith chwarae. Mae’r cwrs wedi ei anelu at wirfoddolwyr, pobl sy’n newydd i’r proffesiwn fel cwrs lefel mynediad, neu weithwyr chwarae tymhorol fel cwrs gloywi.
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) – cymhwyster sy’n cynnig cyflwyniad cyffredinol i waith chwarae. Mae’n addas ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae gwyliau a dyma’r gofyniad mynediad ar gyfer y cymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3). Mae cyrsiau wedi eu hariannu ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd – cysylltwch â’n partner trosgwyddo, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs am fwy o wybodaeth.
  • Canllawiau gwaith chwarae – cyflwyniad cynhwysfawr i theori ac ymarfer gwaith chwarae. Mae’r pedwar canllaw ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac ar gael i’w harchebu mewn print am ddim i’r rheini sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru (am dâl postio bychan).
  • Awgrymiadau anhygoel DPP – wedi eu hanelu at weithwyr chwarae ac ymarferwyr eraill sydd ynghlwm â chwarae plant, mae’r rhain yn syniadau ar gyfer adnabod a chynyddu cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
  • Cynhadledd genedlaethol flynyddol Chwarae Cymru – cyfle datblygiad proffesiynol parhaus gwych, gydag amrywiaeth o gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd a gweithdai i’w mynychu.

I ddysgu mwy am ba gymwysterau a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch, ewch i’n tudalen Cymwysterau a hyfforddiant.

Dysgu mwy am Wythnos Addysg Oedolion 2025

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors