Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Digonolrwydd chwarae 

Archwiliwch

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i warchod hawl plant i chwarae mewn cyfraith.

Staffed playwork provision. Playwork provision offers children opportunities to play in a place that’s staffed by trained playworkers.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n gosod gwerth mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant ac mae’n credu: 

  • bod gan blant hawl sylfaenol i chwarae.
  • bod chwarae’n elfen ganolog o fwynhad plant o fywyd a’i fod yn cyfrannu at eu lles.
  • bod chwarae’n hanfodol ar gyfer twf yn natblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant.
  • bod cyfleoedd chwarae o safon uchel ar gyfer pob plentyn yn gallu helpu i liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a’u helpu i gynyddu gwytnwch plant. 
  • bod chwarae’n gallu bod yn ffordd o leihau anghydraddoldebau rhwng plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n gallu fforddio gweithgareddau drud a’r rheini sydd ddim. Mae ganddo’r grym i leihau tlodi profiadau i bob plentyn. 

Mae Llywodraeth Cymru am greu amgylchedd yng Nghymru ble caiff plant gyfleoedd gwych i chwarae a mwynhau eu hamser rhydd. I gyflawni hyn, mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn amod gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru asesu a sicrhau bod eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae. Gelwir yr amod gyfreithiol hon yn Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Gofynion digonolrwydd chwarae 

Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi ei chynnwys yn adran ‘Cyfleoedd Chwarae’ Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Cyflwynwyd y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae mewn dau ran. Cychwynnodd y rhan gyntaf, sy’n dweud bod rhaid i awdurdodau lleol asesu os ydi eu hardal leol yn cynnig digon o gyfleoedd i blant chwarae, ym mis Tachwedd 2012. Mae’r ail ran, a gychwynnodd ym mis Gorffennaf 2014, yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardal, cyn belled ag sy’n rhesymol ac ymarferol. 

Mae rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gwblhau Asesiad Digonolrwydd Chwarae (ADCh) bob tair blynedd. Cyflwynwyd yr ADCh cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Mae rhaid i awdurdodau lleol ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Chwarae hefyd a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, ynghyd ag adroddiadau cynnydd. 

Yn ogystal, mae rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi crynodeb o’u ADCh ar eu gwefannau. Mae rhaid i’r grynodeb hon gynnwys canlyniadau’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a phwysleisio’r camau gweithredu y mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae.

 

Cyfarwyddyd digonolrwydd chwarae

Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae yw’r cyfarwyddyd statudol ar gyfer awdurdodau lleol sy’n amlinellu sut i asesu a sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae yn eu hardaloedd. Mae rhaid i awdurdodau lleol ystyried y naw Mater canlynol:

  • Mater A: Poblogaeth 
  • Mater B: Diwallu anghenion amrywiol  
  • Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae (mannau agored, mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff, caeau chwarae)  
  • Mater Ch: Darpariaeth dan oruchwyliaeth (darpariaeth gwaith chwarae, gweithgareddau hamdden strwythuredig) 
  • Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae  
  • Mater Dd: Mynediad i le a darpariaeth, yn cynnwys mesurau diogelwch ffyrdd, trafnidiaeth, gwybodaeth a chyhoeddusrwydd 
  • Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae 
  • Mater F: Ymgysylltu gyda’r gymuned a’i chynnwys 
  • Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

 

Dadansoddi Asesiadau Digonolrwydd Chwarae

Mae Chwarae Cymru wedi cynnal dadansoddiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) a Chynlluniau Gweithredu Chwarae awdurdodau lleol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022.

Cyflwr chwarae 2022 yw’r nawfed adolygiad cenedlaethol i Chwarae Cymru ei gwblhau. Mae’n ehangu ar yr adroddiad Cyflwr Chwarae a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2000, ac a ddiweddarwyd gan Chwarae Cymru wedi hynny yn 2003, 2006, 2009 a 2011.

Ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, mae Chwarae Cymru wedi adolygu’r ADCh a gyflwynwyd yn 2013, 2016 a 2019. Rydym hefyd wedi adolygu amrywiol Adroddiadau Cynnydd yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhain.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors