Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Datblygu’r gweithlu

Archwiliwch

Yma yn Chwarae Cymru, rydym am wneud yn siŵr bod gan bawb yn y gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae’r gefnogaeth y maent ei hangen i ddeall, gwerthfawrogi ac eirioli dros gyfleoedd i chwarae.

Mae ein hyfforddiant, digwyddiadau a’n cyhoeddiadau i gyd wedi’u dylunio gan ystyried adrannau penodol o’r gweithlu.

Diffiniadau

Mae’r ‘gweithlu gwaith chwarae’ yn golygu pawb sy’n gwneud gwaith chwarae fel swydd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gweithio mewn gwaith chwarae mynediad agored a gofal plant y tu allan i oriau ysgol. Mae hefyd yn cwmpasu gweithwyr chwarae mewn ysgolion, ysbytai neu brosiectau cymunedol.

Mae’r ‘gweithlu chwarae’ yn cynnwys unrhyw un y mae eu swyddi’n effeithio ar ble a phryd y mae plant yn chwarae. Mae’n cwmpasu’r bobl hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, yn ogystal â’r bobl hynny sydd a’r pŵer i roi caniatâd i chwarae. Mae hyn yn cynnwys pob sy’n gweithio mewn:

  • awdurdodau lleol
  • cynghorau tref a chymuned
  • cynllunio
  • priffyrdd
  • datblygu cymunedol
  • gofal iechyd a chymdeithasol.

 

Daw’r ddau ddiffiniad yma o gyfarwyddyd statudol Llywodraeth Cymru, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae.

Mae ‘datblygu’r gweithlu’ yn cynnwys yr holl gefnogaeth y byddwn yn ei gynnig i gynyddu sgiliau a gwybodaeth pobl am chwarae a gwaith chwarae. Yma yn Chwarae Cymru, mae hefyd yn cyfeirio at:

  • Sut yr ydym yn bwriadu trefnu recriwtio a chadw’r gweithlu
  • Sut yr ydym yn gwybod pa heriau sy’n wynebu’r gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae
  • Sut yr ydym yn dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaethau’r llywodraeth sy’n effeithio ar y gweithlu
  • Sut yr ydym yn bwriadu sicrhau cyllid ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau
  • Sut yr ydym yn dylanwadu ar gynlluniau ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwaith chwarae
  • Sut yr ydym yn gweithio gyda gweddill y sector chwarae a gwaith chwarae yn y DU.

Am PETC Cymru

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) yn grŵp sy’n trafod materion o bwys strategol i bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’r grŵp hefyd yn gwneud argymhellion i PETC UK. Mae Chwarae Cymru’n cefnogi rhedeg PETC Cymru.

Mae swyddogaethau PETC Cymru’n cynnwys:

  • Cymeradwyo cymwysterau gwaith chwarae gaiff eu cynnwys yn y Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru.
  • Darparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chymwysterau.
  • Rhannu gwybodaeth gyda Chynghorau Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae cenedlaethol eraill.
  • Derbyn adroddiadau a gwneud argymhellion am agweddau allweddol yn natblygiad cymwysterau gwaith chwarae, cofrestru ar eu cyfer a’u cwblhau.
  • Monitro a chefnogi agweddau o Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae sy’n ymwneud â datblygu’r gweithlu gwaith chwarae.

Consortiwm Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae’r DU

Mae Chwarae Cymru yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth i Gonsortiwm Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae’r DU.

Diben y consortiwm yw cynllunio dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a mentrau sgiliau sector mewn perthynas â gwaith chwarae, a hynny mewn modd strategol ar draws y pedair gwlad. Yn benodol, mae’n anelu at fod mewn sefyllfa i sicrhau bod adolygiad yn y dyfodol o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn cael ei gynnal gan gonsortiwm o sefydliadau sy’n gallu dangos arbenigedd yn y sector a chefnogaeth i’r sector.

Mae aelodaeth o Gonsortiwm Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae’r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, Play England, PlayBoard Northern Ireland a’r Playwork Foundation. 

Swyddogaethau allweddol:

  • Hwyluso cyfathrebu ynghylch sgiliau’r sector gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu ledled y DU.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Cynghorau Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae (PETCs) neu gyrff tebyg, ym mhob un o’r pedair gwlad, gan gynnwys PETC y DU.
  • Trafod, cytuno a chynllunio ar gyfer adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae yn y dyfodol.
  • Annog sefydliadau gwaith chwarae cenedlaethol ac arbenigwyr yn y sector gwaith chwarae, gan gynnwys cyflogwyr, i gyfrannu at y gwaith o ysgrifennu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae.

Adnoddau

Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru

Gweithlu chwarae-gyfeillgar i Gymru yw cynllun Chwarae Cymru ar gyfer cefnogi datblygu’r gweithlu. Datblygwyd y cynllun gyntaf yn 2017, ei ddiweddaru yn 2020 ac eto yn 2023 i adlewyrchu anghenion newidiol y gweithlu.

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Diffiniadau clir a chryno o’r gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae
  • Heriau sy’n wynebu’r gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae
  • Blaenoriaethau strategol a gweithrediadol Chwarae Cymru ar gyfer y gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae.

 

Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021

O dro i dro, bydd Chwarae Cymru’n cynnal ymchwil i anghenion y gweithlu. Mae Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021 yn darparu cipolwg ar y gweithlu chwarae yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd:

  • strategaeth
  • cysylltiadau rhwng strategaeth ac ymarfer
  • y gweithlu chwarae ei hun.

Os hoffech gopi o’r adroddiad ymchwil llawn, cofiwch gysylltu gyda ni.

 

Dan y chwyddwydr…

Mae gwaith chwarae yn broffesiwn. Bydd gweithwyr chwarae’n hyfforddi i wneud eu gwaith. Gall gweithwyr chwarae ymarfer ar nifer o wahanol lefelau a gallant ddilyn gwahanol lwybrau – o waith dros dro rhan-amser i swyddi parhaol llawn amser yn datblygu neu’n rheoli lleoliadau chwarae.

Er mwyn darparu cipolwg ar amrywiaeth y gweithlu chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru rydym wedi cyfweld ag ystod o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn gwahanol rolau. Bwriad cyfweliadau Dan y chwyddwydr… hefyd yw rhoi syniad o’r rolau swydd sydd ar gael i gefnogi chwarae plant.

 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae yn gyfres o safonau sy’n amlinellu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar weithwyr chwarae mewn nifer o feysydd gwaith. Maent yn cael eu defnyddio’n bennaf er mwyn helpu i ysgrifennu cymwysterau. Maent yn cael eu defnyddio hefyd am resymau eraill, fel datblygu swydd-ddisgrifiadau a sesiynau sefydlu neu ddylunio rhaglenni hyfforddi arbenigol.





Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors