Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Popeth am chwarae

Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnwn beth sydd o bwys iddyn nhw, bydd plant yn cyfeirio’n gyson at chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.

 

Yn yr adran hon, cewch hyd i wybodaeth am: 

 

  • Hawl plant i chwarae
  • Chwarae a chymdeithasu
  • Chwarae a chynhwysiant
  • Chwarae a risg
  • Mannau i chwarae
  • Diwrnod Chwarae
  • Gweithio gyda phlant

Beth yw chwarae?

Mae ‘chwarae’ yn disgrifio nifer o wahanol fathau o ymddygiad a rhyngweithiadau gyda phobl, amgylcheddau a gwrthrychau eraill.

Yn Sylw Cyffredinol rhif 17, a gyhoeddwyd yn 2013, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn diffinio chwarae fel

 

‘ymddygiad, gweithgaredd neu broses gaiff ei sbarduno, ei rheoli a’i strwythuro gan blant. Bydd chwarae’n digwydd pryd bynnag a ble bynnag y bydd cyfleoedd yn codi.’

 

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn rhestru hefyd nodweddion allweddol chwarae, sef:

 

  • hwyl
  • ansicrwydd
  • her
  • hyblygrwydd
  • bod yn anghynhyrchiol.

Mae hyn yn alinio gydag ac yn ehangu ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o chwarae (a gyhoeddwyd yn ei Bolisi Chwarae yn 2002) fel:

 

‘cwmpasu ymddygiad plant sydd wedi’i ddewis o wirfodd, yn ei lywio ei hun ac yn ei wneud er ei fwyn ei hun. Mae’n cael ei wneud heb olwg ar unrhyw nod na gwobr allanol, ac mae’n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig o ran y plant unigol, ond hefyd o ran y gymdeithas y maent yn byw ynddi’.

 

Gellir cefnogi neu gyfyngu ar gyfleoedd i blant chwarae mewn tair prif ffordd:

 

  • Amser: y galwadau ar amser plant a sut y caiff ei strwythuro
  • Lle: maint, dyluniad a rheolaeth gofod ble gallai plant chwarae
  • Caniatâd: ofn, disgwyliadau, goddefgarwch, a’r modd y mae oedolion yn ystyried plentyndod a chwarae.

Pam fod chwarae’n bwysig? 

Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae astudiaethau’n dangos bod chwarae’n helpu plant i deimlo’n rhan o’u cymdogaethau a’u cymunedau ehangach. Mae chwarae hefyd yn cefnogi:

  • cymdeithasoli
  • gwytnwch
  • iechyd a lles
  • dysg a datblygiad 
  • hapusrwydd.
Chwarae a chwrdd â ffrindiau y tu allan

Mae cefnogi plant ac arddegwyr i chwarae’r tu allan a chwrdd â’u ffrindiau’n hanfodol ar gyfer eu hiechyd a’u hapusrwydd

Dysgu mwy
Chwarae a chynhwysiant

Mae chwarae cynhwysol yn golygu rhoi mynediad cyfartal i bob plentyn ac arddegwr i ddarpariaeth chwarae lleol o safon dda

Dysgu mwy
Chwarae a gwaith ieuenctid

People who work with older children and teenagers have an important role in supporting their opportunities to play and meet up with friends

Dysgu mwy
Chwarae a risg

Mae plant yn chwilio am risg ac ansicrwydd yn eu chwarae – maent yn cael eu denu at her, newydd-deb, a’r annisgwyl

Dysgu mwy
Gweithio gyda phlant Gweithio gyda phlant

Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod plant yn cael amser, lle a rhyddid i chwarae. Mae gweithlu cyfan sy’n helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Dysgu mwy
Hawl i chwarae

Mae gan bob plentyn yr hawl I chwarae waeth beth yw ei ddiwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen

Dysgu mwy
Chwarae ac amser sgrîn

Cymryd agwedd gytbwys tuag at chwarae a defnydd plant ac arddegwyr o dechnoleg ddigidol

Dysgu mwy
Lleoedd i chwarae

Mae pob lle da i chwarae’n cynnig amgylchedd chwarae cyfoethog gyda llawer o werth chwarae ar gyfer pob plentyn

Dysgu mwy
Diwrnod Chwarae

Y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU – dathlu hawl plant i chwarae

Dysgu mwy

Plentyndod Chwareus

Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i ddarparu mwy o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymdogaethau.

Dysgu mwy
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors