Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae

Archwiliwch

 

Rhwng 2019 a 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad drylwyr a chydweithredol o’u gwaith polisi chwarae. Roedd gan yr adolygiad ddau nod:

  • i asesu gwaith Llywodraeth Cymru sy’n ymwneudâ pholisi chwarae
  • i helpu Llywodraeth Cymru i lunio sut y mae’n datblygu ac yn symud yr agenda chwarae yn ei blaen.

Sefyflwyd grŵp llywio traws-broffesiynol yn cynnwys arbenigwyr chwarae a gwaith chwarae, gyda swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru i gefnogi’r adolygiad.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Plant yng Nghymru – trwy eu menter Cymru Ifanc – i ymgynghori â phlant ledled Cymru am eu profiadau a’u meddyliau am chwarae. Trafodir y sylwadau a fynegwyd ganddynt trwy adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac yn y papur cefndir cysylltiedig.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y dasg i Chwarae Cymru o gydlynu ysgrifennu’r adroddiad a’r papur cefndir ar ran y grŵp llywio. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Chwarae Cymru i gynhyrchu’r fersiwn o’r adroddiad ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd.

 

Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad y grŵp llywio. Mae’r adroddiad yn cyflwyno 15 o argymhellion allweddol mewn perthynas â chwe thema a nodwyd yn yr adolygiad. Mae’n pwysleisio bod angen gweithredu’r argymhellion hyn ar frys er mwyn gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant yng Nghymru.

Papur cefndir yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae

Caiff adroddiad y grŵp llywio ei hysbysu gan bapur cefndir sy’n darparu llenyddiaeth allweddol, adroddiadau ar effaith COVID-19 a’r rhesymeg ar gyfer yr argymhellion.

Yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – yr hyn mae’n ei olygu i blant a phobl ifanc

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn o adroddiad Grŵp Llywio Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnig trosolwg o ba wahaniaeth y bydd gweithredu argymhellion yr adolygiad yn ei olygu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r fersiwn weledol gryno hon yn rhestru’r hyn ofynnodd plant a phobl ifanc amdano fel rhan o’r ymgynghoriad ac, mewn ymateb, yr hyn mae’r grŵp llywio’n gofyn i Lywodraeth Cymru ei wneud i wireddu hyn i gyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ym mis Hydref 2023, ymatebodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS i’r argymhellion yn Adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Mae’r ymateb yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r argymhellion a’r cerrig milltir awgrymedig yn adroddiad y grŵp llywio, neu eu harchwilio ymhellach. Mae hefyd yn nodi’r camau a fydd yn cael eu cymryd i gyflawni canlyniadau disgwyliedig y grŵp llywio, ynghyd â amserlen ar gyfer pob carreg filltir.

Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – Crynodeb gan Chwarae Cymru

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Chwarae Cymru crynodeb o Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae’n gosod y cyd-destun ar gyfer yr adolygiad – gan egluro pwysigrwydd chwarae i blant a phwysleisio’r ddyletswydd gyfreithiol yng Nghymru i amddiffyn a hyrwyddo chwarae. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd ystyried safbwynt plant wrth asesu digonolrwydd eu cyfleoedd chwarae.

Mae’r crynodeb yn rhoi trosolwg byr o’r gwaith a wnaed yn ystod yr adolygiad – gan gynnwys casglu safbwyntiau plant. Mae’n cyflwyno’r chwe ardal thematig o waith a nodwyd yn adolygiad y grŵp llywio a’r 15 argymhelliad a wnaed ar draws y themâu hyn.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors