Cym | Eng

Newyddion

Dewch inni siarad am chwarae – cwrs hyfforddiant wedi’i ardystio gan Chwarae Cymru

Date

22.05.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r cwrs Dewch inni siarad am chwarae wedi ei ddylunio fel cyflwyniad i chwarae a gwaith chwarae. Mae’r cwrs yn darparu pecyn cynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu sydd ar gael i’w trosglwyddo gan unrhyw diwtor sydd wedi llwyddo i gwblhau’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT).

Mae’r cwrs wedi ei ardystio gan Chwarae Cymru.

Nodau’r cwrs:

  • I ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o beth mae chwarae’n ei olygu a sut y mae o fudd i blant
  • I ddeall sut y gall oedolion sy’n gweithio gyda phlant, neu mewn rolau ble y gwneir penderfyniadau am gyfleoedd plant i chwarae, gael effaith cadarnhaol neu negyddol ar brofiad chwarae plant
  • I feithrin ymwybyddiaeth ynghylch pam fod plant angen chwarae a sut y mae oedolion yn hybu’r hawl i chwarae a meithrin amgylchedd ble caiff hawl y plentyn i chwarae ei amddiffyn.

Mae’r cwrs yn cynnwys tair sesiwn:

  • Mae Pam chwarae? yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig. Mae’r sesiwn hon wedi ei hanelu at y gweithlu chwarae – y rheini sydd mewn rolau allai effeithio ar hawl y plentyn i chwarae.
  • Mae Beth yw chwarae a gwaith chwarae? a Pam gwaith chwarae? yn cyflwyno chwarae a chwarae fel gweithgaredd ac yn datblygu dealltwriaeth o rôl gweithwyr chwarae. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hanelu at wirfoddolwyr, pobl sy’n newydd i’r proffesiwn fel cwrs lefel mynediad, neu weithwyr chwarae tymhorol fel cwrs gloywi.

Mae’r deunyddiau hyfforddi hyn yn adnoddau gwaddol o Brosiect Llysgenhadon Chwarae Y Gronfa Iach ac Egnïol.

Os oes gennych grŵp o ddysgwyr ac yr hoffech gael gwybod am drosglwyddo cwrs yn eich ardal leol, cofiwch gysylltu gyda ni – gweithlu@chwarae.cymru.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors