Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Chwarae ac amser sgrîn

Archwiliwch

Mae technoleg ddigidol wedi tyfu’n rhan bwysig o fywydau llawer o blant ac arddegwyr ac mae llawer ohonyn nhw’n defnyddio technoleg i chwarae bob dydd.

 

Mae ‘technoleg ddigidol’ yn derm eang sy’n cyfeirio at ffonau clyfar, llechi digidol (tablets), consols gemau cyfrifiadurol, y cyfryngau cymdeithasol a’r teledu.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cydnabod y pryder a’r heriau y mae platfformau digidol yn eu cyflwyno ond mae’n gofyn am agwedd gytbwys. Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn annog gwledydd sydd wedi arwyddo Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i brofi buddiannau mynediad i’r rhyngrwyd. Mae Sylw Cyffredinol rhif 25 ar hawliau plant mewn perthynas â’r amgylchedd digidol yn egluro hyn ymhellach.

Mae perthnasau ar-lein yn bwysig i fywydau plant ac arddegwyr. Maent yn adrodd bod buddiannau i ddefnyddio technoleg, er enghraifft:

  • sefydlu a chynnal cyfeillgarwch
  • dysgu am y byd 
  • cae hwyl 
  • gwneud trefniadau i gwrdd ag i chwarae gyda ffrindiau.

 

Mae rhai astudiaethau wedi canfod cysylltiad rhwng chwarae gemau cyfrifiadurol a lles meddyliol. Mae plant anabl a rhai sydd â diffyg hunan-barch wedi dweud bod chwarae gemau cyfrifiadurol a defnyddio technoleg ddigidol, yn gymedrol, yn gallu rhoi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw.  

Er bod llawer o blant yn mwynhau’r math yma o chwarae, maen nhw’n dweud wrthym hefyd eu bod yn mwynhau gweithgareddau yn eu cymunedau eu hunain sydd ddim yn ymwneud â thechnoleg. Maen nhw’n dweud yr hoffen nhw fwy o gyfleoedd i chwarae sydd ddim yn cynnwys technoleg. Ar gyfer hyn, maen nhw’n elwa o gyfraniad oedolion cefnogol sy’n helpu i ddatblygu amgylchedd chwarae cyfoethog ac amrywiol.

Mae angen i dechnoleg ddigidol fod yn rhan o ystod eang o ddewisiadau o brofiadau a chyfleoedd chwarae. Gellid ei ystyried fel un elfen o ‘ddiet cytbwys’ o chwarae gyda phwysigrwydd cyfartal yn cael ei roi ar: 

  • chwarae corfforol, bywiog 
  • chwarae gyda’r elfennau 
  • yr holl fathau ac ymddygiadau chwarae eraill y mae pob plentyn eu hangen yn eu bywyd bob dydd.

Adnoddau

Awgrymiadau amser sgrîn ar gyfer rhieni 

Ar ein gwefan Plentyndod Chwareus ceir casgliad o awgrymiadau anhygoel i helpu rhieni i gefnogi eu plant i daro cydbwysed rhwng amser sgrîn a gweithgareddau eraill, fel chwarae’r tu allan. 

 

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer amser sgrîn 

Syniadau syml i gefnogi rhieni i ganfod datrysiad i’r heriau ddaw gydag amser sgrîn. 

 

 

Amser sgrîn ar gyfer babis a phlant bach

Awgrymiadau amgen i amser sgrîn ar gyfer rhieni plant bach – gartref a phan mae’r teulu allan – i gefnogi datblygiad eu plant. 

 

Amser sgrîn ar gyfer plant yn eu harddegau 

Awgrymiadau ar gyfer rhieni plant yn eu harddegau am sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhesymol rhwng yr amser gaiff ei dreulio o flaen sgrîn ac amser ar gyfer gweithgareddau hwyliog, cymdeithasol eraill. 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors