Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Ein tîm

Ni yw tîm chwarae Cymru

Darganfod mwy am dîm Chwarae Cymru a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Our team

Danielle Beattie

Rheolwraig Gweithrediadau

Ymunodd Danielle gyda Chwarae Cymru ym mis Mehefin 2021. Ei phrif rôl yw rheoli rhedeg y swyddfa o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Cyfarwyddwr i oruchwylio llywodraethu effeithlon gan y bwrdd a gweithredu a chydymffurfio â’r polisi.

 

Graddiodd Danielle yn 2005 gyda BA mewn Busnes, Cyfrifeg a Chyllid. Ers hynny mae wedi gweithio’n bennaf yn y sector cyhoeddus, ble bu ganddi amrywiol rolau, o fod yn fentor a hyfforddwraig staff i gynorthwywraig weithredol. Pan nad yw’n gweithio, mae Danielle yn treulio’i hamser gyda’i theulu ifanc ac mae’n mwynhau ymarfer corff CrossFit.

Mike Greenaway 

Cyfarwyddwr

Mike yw Cyfarwyddwr Chwarae Cymru ers ei sefydlu ym 1998. Yn y rôl hon, mae wedi bod yn allweddol wrth gynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a mabwysiadu’r polisi chwarae cenedlaethol cyntaf yn y byd a chynllunio ei strategaeth weithredu. Yn dilyn hyn, mae wedi cyfrannu at ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae arloesol Cymru.

 

Mae gan Mike brofiad eang o drosglwyddo a rheoli darpariaeth chwarae a gwaith chwarae, yn cynnwys sefydlu elusennau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Fel aelod o Fwrdd Byd-eang yr International Play Association (IPA) ers 2008, mae wedi cyfrannu, gyda’i gydweithwyr, at ddatblygu Sylw Cyffredinol rhif 17, sy’n cefnogi Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae hefyd yn drysorydd yr IPA.

 

Mae Mike hefyd yn is-gadeirydd Children’s Play Policy Forum y DU, mae’n un o Ymddiriedolwyr Learning through Landscapes ac yn aelod o Play Safety Forum y DU a Chyngor Polisi Plant yng Nghymru. Bu’n ymgynghorydd addysg AALl, yn swyddog ieuenctid sirol, yn weithiwr chwarae ar feysydd chwarae antur, yn weithiwr ieuenctid a chymunedol a, flynyddoedd lawer yn ôl, fe hyfforddodd fel athro.

 

Mae’n Mike yn dal i ymarfer gwaith chwarae bob haf yng nghynllun chwarae ei bentref, ble mae’n Gadeirydd cymdeithas chwarae’r pentref. Mae ganddo bedwar o blant ac wyth o wyrion sy’n ei gadw i chwerthin, yn ifanc ac yn flinedig!

Martin King-Sheard

Swyddog Datblygu’r Gweithlu 

Mae Martin wedi gweithio i Chwarae Cymru ers 2006. Mae’n bennaf gyfrifol am ddatblygiad strategol a pholisi sy’n berthnasol i ddysg a datblygiad proffesiynol y gweithlu chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru.

 

Wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru, cychwynnodd Martin ei yrfa gwaith chwarae yn 2002 fel gweithiwr datblygu chwarae gydag elusen fechan yn Sherwood, Nottingham.

 

Pan nad yw’n gweithio, rydych yn debygol o gael hyd i Martin yn chwarae gyda’i deulu ar y traeth, yn jyglo neu’n ymarfer ar gyfer triathlon.

Marianne Mannello 

Cyfarwyddwraig Gynorthwyol (Polisi, Cymorth ac Eiriolaeth)

Mae gan Marianne dros 30 mlynedd o brofiad mewn nifer o agweddau ar chwarae a gwaith chwarae, yn cynnwys ymgynghori a datblygu strategaethau chwarae. Ymunodd â Chwarae Cymru yn 2002, wedi bod yn un o’n hymddiriedolwyr cyn hynny. Mae’n arwain ar ddigonolrwydd chwarae, hawliau plant, iechyd a lles a darpariaeth chwarae mewn cymdogaethau.

 

Mae Marianne wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad pecyn cymorth i helpu awdurdodau lleol i gynnal yr Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Mae’n Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus yng Ngholeg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Mae’n arwain ar y Dangosydd Chwarae Egnïol fel aelod o Grŵp Arbenigol Cerdyn Adroddiad Plant Egnïol Iach Cymru.

 

Marianne hefyd yw prif awdur Play and Leisure Thematic Briefings fel aelod o Grŵp Monitro Cymru o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

 

Yn ei hamser hamdden, mae Marianne yn mwynhau darllen, coginio a gwrando ar fandiau ifanc addawol (ac ambell i hen un sydd wedi ennill eu plwyf!) ac fe lwyddodd i feistroli’r cylchyn hwla yn ystod y cyfnod clo!

Ruth O’Donoghue 

Swyddog Cyllid

Ymunodd Ruth â Chwarae Cymru ym mis Tachwedd 2015 a hi sy’n gyfrifol am ein systemau ariannol a chyfrifo.

 

Graddiodd Ruth o Brifysgol Morgannwg gyda gradd mewn Cyfrifeg Busnes ac enillodd ei chymhwyster cyfrifydd siartredig (ACCA) tra’n gweithio mewn adrannau cyfrifon ar draws amrywiol sectorau. Cyn ymuno â Chwarae Cymru, gweithiodd Ruth i elusen sy’n darparu llety â chymorth a gwasanaethau cynnal yng Nghymru.

 

Pan nad yw’n gweithio, mae Ruth yn mwynhau bod gyda’i theulu ifanc a byth a hefyd yn ateb y cwestiwn ‘Pam?’!

Diana Wilczyńska Fiuk

Cynorthwyydd Gweinyddu a Digwyddiadau

Ymunodd Diana gyda Chwarae Cymru yn 2023, wedi iddi raddio gyda gradd BA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gyfrifol am gefnogi’r staff trwy gynnig cymorth cyffredinol a chwblhau amrywiaeth eang o dasgau gweinyddol. Mae hefyd yn helpu gyda’n rhaglen hyfforddiant trwy weinyddu archebion, cyd-drafod gyda siaradwyr a sicrhau bod digwyddiadau’n rhedeg yn llyfn.

Cyn ymuno â Chwarae Cymru, gweithiodd Diana fel Cynorthwyydd Gŵyl Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, ble bu’n rhan o gynllunio agweddau o ŵyl ymchwil, Hawlio Heddwch, wnaeth archwilio gwahanol agweddau ar heddwch.

Y tu allan i’r gwaith, mae Diana’n mwynhau teithio, coginio, syrffio, a bywyd bywiog. Mae’n trysori amser gyda’i phartner a’r gath goch ddireidus – cewch hyd i Diana’n aml yn codi planhigion sydd wedi eu bwrw ar lawr gan anturiaethau’r gath chwareus yng nghanol y nos.

Angharad Wyn Jones

Rheolwraig Cyfathrebu

Ymunodd Angharad â Chwarae Cymru yn 2006, wedi graddio gyda BA yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth ac yna gydag MPhil yn y Gymraeg. Hi bellach yw ein Rheolwraig Cyfathrebu.

 

Mae’n gyfrifol am y gwasanaeth gwybodaeth – sy’n cynnwys cynnal a chadw’r wefan, arwain y gwaith o gynhyrchu cyhoeddiadau Chwarae Cymru, cydlynu ymholiadau’r cyfryngau a gwaith cyfieithu.

 

Mae Angharad yn arwain ar ymgyrch a gwefan Plentyndod Chwareus, ac mae’n gyfrifol hefyd am sianelau cyfryngau cymdeithasol yr elusen. Mae’n aelod o Grŵp Llywio Diwrnod Chwarae y DU. Pan nad yw’n gweithio, mae Angharad yn mwynhau darllen un nofel ar ôl y llall, teithio i bob cwr o’r byd a gwylio tîm rygbi Cymru.

Ein gweithwyr cyswllt

Cefnogir ein gwaith gan amryw o weithwyr cyswllt sydd âg arbenigedd yn eu meysydd gwaith.

Jane Hawkshaw

Cydlynydd Cymwysterau

Mae Jane yn gweithio gyda’n Swyddog Datblygu’r Gweithlu i ddarparu cefnogaeth i’n canolfannau cymwysterau gwaith chwarae. Mae hefyd yn trafod gyda dysgwyr gwaith chwarae sydd â diddordeb astudio ar gyfer ein cymwysterau ac mae’n cynorthwyo gyda datblygu ac adolygu adnoddau dysgu ac addysgu.

 

Mae Jane yn ymarferydd, hyfforddwr ac asesydd gwaith chwarae a gwaith ieuenctid ac wedi cymhwyso mewn Sicrwydd Ansawdd Mewnol (IQA). Mae wedi bod yn gydlynydd hyfforddiant gwaith chwarae a gwaith ieuenctid ledled Cymru am dros 23 mlynedd. Fe gymhwysodd yn Wrecsam yn 1993 cyn mynd i Brifysgol Reading i astudio gradd Ieuenctid ac Addysg Gymunedol cyn cwblhau’r cymhwyster TAR hyfforddi athrawon.

 

Yn ystod ei gyrfa mae Jane wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yn ogystal ag addysg bellach. Mae’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm, gan gefnogi staff a gwirfoddolwyr gyda datblygu’r gweithlu sydd yn eu tro’n cefnogi arfer gorau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n Ymddiriedolwr gydag elusen ieuenctid a chymunedol sy’n cefnogi mentrau datblygu cymunedol. Mae’n mwynhau siocled, llawer ohono, a theithio yn y camper-fan gyda’i theulu.

Rachel Pitman 

Swyddog Cyfathrebu

Mae Rachel yn cefnogi ein Rheolwraig Cyfathrebiadau. Gyda’i gilydd maen nhw’n hyrwyddo gwaith Chwarae Cymru a’i bartneriaid ar draws sianelau cyfathrebu’r elusen.

 

Cyn hynny, gweithiodd Rachel ym maes cyfathrebiadau yn y sectorau addysg uwch a gofal cymdeithasol, yn fwyaf diweddar fel arweinydd cyfathrebu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru. Fe wnaeth hyn ysgogi ei hawydd i weithio mewn rôl sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.

 

Yn ogystal â’i gwaith, mae Rachel yn astudio i fod yn gwnselydd plant ac ar hyn o bryd mae’n gwirfoddoli fel cwnselydd ar Childline. Mae gan Rachel ddau o blant ifanc sy’n ei chadw’n brysur, ac mae’n hoff o DIY, teithiau cerdded hir a cherddoriaeth indie o ddechrau’r 2000au.

Ein Bwrdd Ymddiriedolwyr

Llywodraethu

Mae Chwarae Cymru’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO).

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yn goruchwylio rhedeg Chwarae Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â’r gyfraith. Mae sefydliadau sy’n Sylwedyddion i’r Bwrdd yn cefnogi’r Ymddiriedolwyr ond sydd heb bleidlais.

 

Caiff ein Hymddiriedolwyr i gyd eu hethol gan ein haelodau neu eu cyfethol. Mae pob un o’n Hymddiriedolwyr yn cynrychioli maes arbenigol penodol, megis hawliau plant, cyfranogiad, iechyd a lles.

Ein Hymddiriedolwyr

Dr Rhian Barrance

Mae Rhian yn Ymchwilydd Cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect ymchwil addysg i WISERD, astudiaeth cohort hydredol ar raddfa fawr.

 

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar arolwg o ddisgyblion ar draws Cymru, sy’n edrych ar agweddau o’u bywydau ac addysg dros y saith blynedd diwethaf.

 

Cwblhaodd Rhian ei PhD yn y Ganolfan Hawliau Plant ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast. Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd, mae wedi cwblhau dau brosiect ar ran Comisiynydd Plant Cymru, yn cynnwys adolygiad o dystiolaeth ar hawliau dynol plant yng Nghymru.

Anne Crowley

Mae Anne yn ymgynghorydd polisi ac ymchwil. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, ble y cwblhaodd radd doethur ar effaith cyfranogaeth plant ar lunio polisïau.

 

Rhwng 1999 a 2009, gweithiodd Anne fel Cyfarwyddwraig Gynorthwyol (Polisi ac Ymchwil) gydag Achub y Plant yng Nghymru. Cyn dechrau gweithio ym maes polisi ac ymchwil, fe weithiodd gyda phobl ifanc sydd ar gyrion cymdeithas fel gweithwraig gymdeithasol a swyddog prawf.

Matluba Khan

Mae Matluba yn ddarlithydd Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn hynny bu’n gymrawd ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn Athro Cynorthwyol mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Peirianneg a Thechnoleg Bangladesh.

 

Mae Matluba, pensaer tirwedd ‘cadwedig’, wedi ei hyfforddi mewn pensaernïaeth ac mae wedi tyfu i fod yn gyd-ddylunydd ac yn ymchwilydd gweithredu ar fuddiannau gorau plant a’r gymuned. Mae’n arbenigwr ar ddylunio cyfranogol, ymchwil ymyrraeth a gwerthuso’r amgylchedd adeiledig ar gyfer dysg, iechyd a lles plant.

 

Gan weithio mewn meysydd ymarferol ac academaidd, mae Matluba’n anelu i leihau’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer ac mae wedi cydsefydlu’r elusen ‘A Place in Childhood’. Mae wedi cyflwyno’n rhyngwladol ar destun dylunio ar gyfer dysg ac iechyd plant a chynnwys pobl ifanc mewn dylunio, yn cynnwys mewn ‘TEDx talk’ yn 2017.

 

Derbyniodd y safle ysgol a gyd-ddyluniodd ym Mangladesh nifer o wobrau rhyngwladol arobryn yn cynnwys gwobr ‘EDRA Great Places Award 2016’ a’r ‘ASLA Honor Award 2017’.

Malcolm King OBE

Mae Malcolm wedi chwarae rhan flaenllaw, yn broffesiynol ac yn wleidyddol, yn natblygiad gwasanaethau a pholisïau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn lleol ac yn genedlaethol ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n Rheolwr maes chwarae antur The Venture yn Wrecsam ers 1984.

 

Ym 1989, fe’i etholwyd i wasanaethu fel Cynghorydd Sir Clwyd dros etholaeth Parc Caia ac yn fuan wedyn fe’i penodwyd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol gan gyflwyno nifer o ddiwygiadau.

 

Ers 1996, am amrywiol gyfnodau, bu’n arweinydd Cyngor Wrecsam, yn gadeirydd y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau, ac yn aelod o’r Bwrdd Gweithredol.

 

Ers 2000 mae Malcolm wedi chwarae rhan arweiniol yng Nghymdeithas Awdurdodau’r Heddlu (APA), gan arwain ar gyfraniad APA at ddatblygu plismona cymdogaeth ers 2001. Yn fwy diweddar, mae wedi arwain ar yr ymateb polisi i’r Ddeddf Plant, gan ddatblygu polisïau ar amddiffyn plant a throseddau ieuenctid.

Dr Athro Ronan Lyons

Graddiodd Ronan mewn meddygaeth o Goleg y Drindod, Dulyn ym 1983 ac wedi nifer o flynyddoedd fel meddyg mewn ysbytai, arbenigodd mewn iechyd y cyhoedd ac epidemioleg. Symudodd i Gymru ym 1993 gan weithio mewn nifer o swyddi fel meddyg iechyd y cyhoedd ac mewn adrannau brys cyn symud ymlaen i academia.

 

Ar hyn o bryd mae’n Athro Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymgynghorydd mygedol gydag Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Ronan yn ymwneud â nifer o astudiaethau arsylwadol ac ymyriadol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn enwedig ym meysydd atal a rheoli anafiadau, gwella iechyd ac iechyd plant.

 

Mae nifer o’r rhain yn cael eu cefnogi gan ei ddatblygiadau ym maes cysylltu cofnodion trwy drwch y boblogaeth. Mae ganddo nifer o swyddogaethau ymchwil yn y DU, yn cynnwys Cyfarwyddwr Y Ganolfan er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd trwy E-ymchwil Iechyd (CIPHER) a Chyd-Gyfarwyddwr DECIPHer Public Health Research Centre of Excellence a ariennir gan UKCRC.

Keith Towler

Cadeirydd

Bu Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru rhwng 2008 a 2015 a bellach mae’n ymgynghorydd annibynnol. Mae’n arbenigwr uchel iawn ei barch ar hawliau plant gyda dros 30 mlynedd o brofiad ym meysydd gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid. Fel ail gomisiynydd plant Cymru, cyhoeddodd nifer o adroddiadau ar bynciau’n cynnwys chwarae, eiriolaeth, amddiffyn pant, masnachu mewn plant, gofalwyr ifainc, plant a phobl ifainc anabl, a phlant sy’n derbyn gofal.

 

Bu Keith yn aelod o Fforwm Diogelu Plant Cymru, Llywodraeth Cymru ac yn aelod panel o’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. Comisiynwyd yr adolygiad annibynnol hwn gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Yr Adran Addysg a Llywodraeth Cymru ac ef gynrychiolodd fuddiannau plant.

 

Roedd Keith yn aelod o Weithgor yr International Play Association (IPA) dderbyniodd gais gan Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn i gymryd rôl arweiniol wrth helpu i ddrafftio Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Dr Jacky Tyrie 

Mae Jacky yn ymchwilydd a darlithydd Astudiaethau Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi gweithio fel darlithydd addysg uwch ers 10 mlynedd, mewn swyddi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.

 

Mae ei diddordeb ym maes plentyndod cynnar o bersbectif cymdeithasegol a daearyddol ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar blentyndod yn rhyngwladol, chwarae a hawliau cyfranogi plant.

 

Mae Jacky yn arbenigwraig ac yn arweinydd cenedlaethol ar hawliau plant ac mae’n cydlynu rhwydwaith ‘Children’s Rights in Early Years (CREY) Network’. Mae wedi cyhoeddi erthyglau mewn nifer o gyfnodolion, yn cynnwys Cylchgrawn Addysg Cymru, The International Journal of Children’s Rights a The British Journal of Sociology.

Elspeth Webb

Magwyd Elspeth ar fferm fynydd yng ngogledd Cymru a daeth yn Athro Pediatreg ag Iechyd Plant. Bu ei gyrfa ymgynghorol fel paediatregydd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn ymddeol yn 2015. Mae ganddi Gadair er Anrhydedd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n gweithio ar sail fygedol i’r brifysgol a’r bwrdd iechyd, yn dysgu ac yn gwneud gwaith clinigol.

 

Mae Elspeth yn awdur dros 50 o gyhoeddiadau, yn cynnwys papurau ar awtistiaeth, ADHD, iechyd ffoaduriaid, hil ac iechyd, cam-drin domestig, cam-drin plant a hawliau plant. Mae ganddi ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant, gan wasanaethu ar grŵp ymgynghorol Comisiynydd Plant cyntaf Cymru, a bu hefyd yn aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru am dros 10 mlynedd.

 

Mae’n briod â chyd-aelod o Gôr Polyffonig Caerdydd, mae ganddi ddwy ferch ac mae’n mwynhau cerdded a seiclo.

Hana Hersi

Hana yw sylfaenydd a chyfarwyddwraig Grŵp Chwarae Montessori Arabeg ‘Sprouts’, lleoliad trwytho seiliedig ar chwarae holistig Arabeg, dwyieithog, sy’n pwysleisio dysgu yn yr awyr agored. Fel cangen arall o’r grŵp chwarae, mae wedi datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer menywod dwyieithog Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, i ennill cymwysterau, hyfforddiant, coetsio, mentora a mwy, yn y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae.

 

Ar hyn o bryd mae Hana yn gweithio ar radd ôl -raddedig ym Mhrifysgol Manceinion mewn technoleg ddigidol, cyfathrebu ac addysg. Ei maes ymchwil yw sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol i gynorthwyo teuluoedd dwyieithog i ddysgu Arabeg i’w plant yn y blynyddoedd cynnar.

Mudiadau sylwedyddion

Catherine Davies

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Catherine yw Swyddog Polisi Plant, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), ac mae’n arwain ar bolisi’r gymdeithas ym meysydd y blynyddoedd cynnar, tlodi plant, hawliau plant a diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Mae’n cynrychioli llywodraeth leol ar nifer o gyrff allanol, yn cynnwys Gweithgor Gofal Plant Llywodraeth Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a Chyngor Polisi Plant yng Nghymru.

 

A hithau’n gyn-was sifil, ymunodd Catherine â’r Swyddfa Gartref yn Llundain wedi graddio gan weithio ar draws amrywiol feysydd polisi ac yn Nhrysorlys EM. Wedi dychwelyd adref i Gaerdydd yn 2001, gweithiodd Catherine yn adran addysg Llywodraeth Cymru cyn ymuno â CLlLC yn 2009.

Eisiau gweithio gyda ni?

Darganfyddwch fwy am gyfleoedd i ymuno â’n tîm.

Gweithio gyda ni
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors