Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Croeso i Chwarae Cymru

Eiriol dros chwarae plant

Yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.

Chwarae Ffilm

Amdanom ni

Rydym yn eiriol dros angen a hawl pob plentyn i chwarae

Ein gweledigaeth yw dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.

 

Rydym yn ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.

Chwarae

Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnwn beth sydd o bwys iddyn nhw, bydd plant yn cyfeirio’n gyson at chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.

Gwaith Chwarae

Mae gwaith chwarae’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws pan fydd oedolion a phlant yn treulio amser gyda’i gilydd. Mae gwaith chwarae’n alwedigaeth a gydnabyddir sydd â chyfres o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd.

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Mae chwarae’n rhan bwysig o fywydau plant ac arddegwyr ac mae’n digwydd ble bynnag maen nhw’n treulio amser. Fel eiriolwr chwarae, mae Chwarae Cymru yn cyfrannu at ystod o ddadleuon a phenderfyniadau polisi – gan gynnwys ar hawliau plant, iechyd a lles a datblygu’r gweithlu.

Llyfrgell adnoddau

Mae ein casgliad o adnoddau yn cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant ac arddegwyr. Maent hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Digwyddiadau i ddod

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Chwarae Cymru - a rhai a drefnir gan fudiadau eraill

Gweld popeth

Digwyddiad Chwarae Cymru

Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yng Nghymru: beth nesaf? Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yng Nghymru: beth nesaf?

Lleoliad

Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd

Dyddiad ac amser

23-11-2023 /

Pris

£45 - £55

Cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru.

Gweld

Digwyddiad Chwarae Cymru

Beth sy’n gwneud gofod gwych i chwarae? Beth sy’n gwneud gofod gwych i chwarae?

Lleoliad

Ar-lein dros Zoom

Dyddiad ac amser

04/10/2023 / 2:00pm – 4:00pm

Pris

£0

Gweminar ar-lein yn adrodd ar ymchwil sy'n archwilio agweddau ar fannau chwarae awyr agored. Mae'r siaradwyr yn cynnwys Meghan Talarowski, Dr. Michaela James, Sana Shaikh a'r Athro Gareth Stratton.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors