Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Sicrhau ansawdd

Archwiliwch

Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gyda’r sector gwaith chwarae i ddatblygu Chwarae o Safon: marc ansawdd gwaith chwarae.

Mae grŵp cyfeirio arbenigol wedi cefnogi datblygu’r marc ansawdd. Mae aelodau’r grŵp hwn yn cynnwys:

  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • Arbenigwyr chwarae
  • Cyflogwyr gwaith chwarae o leoliadau blynyddoedd cynnar, gwaith chwarae mynediad agored a gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • Hyfforddwyr gwaith chwarae
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Llywodraeth Cymru.

 

Mae Chwarae o Safon yn ychwanegu at ac yn disodli dau o adnoddau Chwarae Cymru:

  • Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae (a gyhoeddwyd yn 2001)
  • Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol (a gyhoeddwyd yn 2002).

Bwriedir i Chwarae o Safon gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith chwarae anrheoleiddiedig, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae hefyd yn berthnasol i’r bobl hynny sy’n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau gwaith chwarae amhenodedig.

Dyfernir dau wahanol farc ansawdd gwaith chwarae, y naill yn canolbwyntio ar ymarfer a’r llall ar bolisi. Gall lleoliadau gwaith chwarae weithio tuag at un neu ddau o’r dyfarniadau hyn:

1. Chwarae o Safon – marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae

Mae hwn yn asesu:

  • profiadau chwarae plant
  • yr amgylchedd gwaith chwarae.

Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau sy’n defnyddio agwedd gwaith chwarae neu y mae eu staff wedi cwblhau hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae ac sydd am arddangos ymarfer gwaith chwarae da. Yn ogystal â lleoliadau gwaith chwarae penodedig, gall hyn gynnwys darpariaeth gwaith ieuenctid, gofal plant, addysg, chwaraeon ac iechyd hefyd.

2. Chwarae o Safon – marc ansawdd polisi gwaith chwarae

Mae hwn yn asesu:

  • polisi ac ymarfer gwaith chwarae
  • y sefydliad gwaith chwarae.

Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau y mae eu prif ddiben yn cynnwys cefnogi chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau a reoleiddir ac anrheoleiddiedig sy’n diffinio eu hunain fel un ai darpariaeth beripatetig neu rodwyr chwarae, meysydd chwarae antur, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gwaith chwarae mynediad agored neu chwarae stryd. Mae’n canolbwyntio ar y polisïau, y gweithdrefnau a’r ethos sefydliadol sy’n cefnogi ymarfer gwaith chwarae. Er mwyn ennill y marc ansawdd hwn, bydd lleoliadau eisoes wedi derbyn y marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae.

 

Dysgu mwy

Cysylltwch gyda ni i ddysgu mwy am sut y gallwch ymgeisio am farc ansawdd Chwarae o Safon, sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd.

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors