Mae ein ffilm newydd, sy’n cynnwys plant o bob cwr o Gymru, yn dathlu chwarae ac yn amlygu ei bwysigrwydd i bob plentyn.
Maen nhw’n dweud yn onest beth mae chwarae’n ei olygu iddyn nhw. Mae’r ffilm yn cyfleu pam mae chwarae’n hanfodol i ddatblygiad, iechyd, lles a hapusrwydd plant.
Wedi’i throsleisio gan yr actor Matthew Rhys, fe’i ffilmiwyd dros gyfnod o ddwy flynedd ar hyd a lled Cymru. O chwarae ar y stryd i iard yr ysgol, o’r ystafell fyw i’r iard gefn, mae’r ffilm yn cofnodi chwarae yn ei amrywiol ffurfiau ac yn cynnig cipolwg unigryw ar pam mae chwarae mor bwysig i blant o bob oed.
Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys cyfweliadau ag oedolion yn myfyrio ar eu hatgof cyntaf o chwarae a sut y gadawodd hynny ei ôl arnynt am weddill eu bywydau.
Comisiynodd Chwarae Cymru y ffilm i ddangos i rieni, gofalwyr, ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd pa mor bwysig yw chwarae i fywydau plant yng Nghymru, a sut y gallwn ni i gyd gefnogi hynny. Gobeithiwn y bydd y ffilm yn helpu pawb i gydnabod a gwerthfawrogi na allai unrhyw beth fod yn bwysicach i fywydau ein plant na… chwarae.
Os hoffech chi drefnu dangosiad o’r ffilm yn eich gweithle neu mewn digwyddiad sydd i ddod, cysylltwch â ni. Gallwn rannu fersiwn o ansawdd uchel o’r ffilm i sicrhau’r profiad gwylio gorau.
Mae’r ffilm ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar hyn o bryd. Os hoffech chi gyfieithu’r isdeitlau i iaith arall, cysylltwch â ni i drafod y broses os gwelwch yn dda.