Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Lleoedd i chwarae

Archwiliwch

Bydd plant yn chwarae ble bynnag y maen nhw ac ym mhob mathau o leoedd, ond mae rhai mannau wedi’u creu gyda’r bwriad penodol o gefnogi chwarae plant.

 

Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd chwarae dynodedig, sydd wedi’u darparu’n benodol ar gyfer chwarae, yn ogystal â mannau agored a mannau naturiol a ddefnyddir ar gyfer swyddogaethau eraill hefyd.

Mae gan ardaloedd chwarae a meysydd chwarae amrywiol offer gwneuthuredig ac fe’u defnyddir gan blant o bob oed.  Defnyddir mannau agored fel parciau, caeau pêl-droed a mannau hamdden yn aml ar gyfer chwarae ac efallai mai dyma’r unig ofod awyr agored yn y gymuned.

Mae mannau naturiol fel coedwigoedd, traethau, gerddi cymunedol ac afonydd yn cefnogi chwarae plant hefyd. ’Does dim angen offer chwarae arbenigol o reidrwydd. Mae dŵr, coed a llwyni’n newid gyda’r tymhorau a gall plant eu defnyddio mewn amrywiol ffyrdd, gan gael llawer o bleser o chwarae gyda’r hyn sydd yno’n naturiol.  

Mae pob lle da i chwarae’n cynnig amgylchedd chwarae cyfoethog gyda llawer o werth chwarae ar gyfer pob plentyn.

 

Beth yw amgylchedd chwarae cyfoethog?

Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn amrywiol a diddorol. Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru (yn Cymru gwlad lle mae cyfle i chwarae), mae’n lle ble gall plant:

  • chwarae yn eu ffordd eu hunain
  • gwneud llu o ddewisiadau
  • cael nifer o bosibiliadau i greu a datblygu eu chwarae eu hunain.

 

Yn Cymru gwlad lle mae cyfle i chwarae, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

‘Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn un hyblyg a diddorol, y gellir ei addasu a’i amrywio. Mae’n manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gymdeithasu, i fod yn greadigol a dyfeisgar, ymateb i heriau a gwneud dewisiadau. Mae’n fan cyhoeddus yr ymddiriedir ynddo lle mae plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, yn eu hamser eu hunain, ar eu telerau eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru’n mynd ymlaen i ddweud:

‘mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn i gael rhyddid i ryngweithio â, neu i brofi, y canlynol:

  • Plant eraill o wahanol oed a gallu gyda’r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, i gydweithio, i ddadlau, a datrys anghydfodau.
  • Y byd naturiol  y tywydd, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid a mwd.
  • Rhannau rhydd deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin a’u trafod, eu symud a’u haddasu, eu hadeiladu a’u chwalu.
  • Y pedair elfen  daear, awyr, tân a dŵr.
  • Her ac ansicrwydd cyfleoedd graddedig i gymryd risg, ar lefel corfforol ac emosiynol hefyd.
  • Newid hunaniaeth  chwarae rôl a gwisgo i fyny.
  • Symud  rhedeg, neidio, dringo, cydbwyso, rholio, siglo, llithro a throelli.
  • Chwarae gwyllt  chwarae ymladd.
  • Y synhwyrau  synau, gwahanol flas a gwead, aroglau a golygfeydd.’

 

Beth yw gwerth chwarae?

Gwerth chwarae yw’r hyn y mae amgylchedd, gwrthrych neu ddarn o offer yn ei gynnig i brofiad plant o chwarae. Mae gofod sy’n gyfoethog mewn gwerth chwarae’n creu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o brofiadau chwarae corfforol, cymdeithasol a synhwyraidd. Bydd gan rywbeth werth chwarae uchel os yw’r plant yn gallu chwarae gydag o mewn llawer o wahanol ffyrdd, ei integreiddio yn eu chwarae eu hunain neu ei ddefnyddio i ddatblygu eu syniadau a’u camau gweithredu eu hunain.

Beth sy’n gwneud dyluniad man chwarae’n llwyddiannus?

Mae Design for Play yn ganllaw a grëwyd gan Play England yn 2008 ac mae’n dal i gynnig dechrau da wrth gynllunio a dylunio mannau chwarae. Mae’r canllaw hwn yn pwysleisio deg egwyddor ar gyfer dylunio mannau chwarae llwyddiannus. Mae glynu at yr egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau bod y gofod yn darparu amgylchedd chwarae cyfoethog.

Mae mannau chwarae llwyddiannus:

  1. yn unigryw dydyn nhw ddim yn dod yn syth allan o gatalog ac maent wedi eu dylunio i ymdoddi i’w hardal.
  2. mewn lleoliad da maent yn cael eu gosod ble mae ganddynt y cyfle gorau o gael eu defnyddio, yn agos i gartrefi a llwybrau diogel ar gyfer cerdded a seiclo.
  3. yn defnyddio elfennau naturiol maent yn cynnwys coed a llwyni, glaswellt, mwd, tywod, creigiau, cerrig mawr a thirlunio, sydd i gyd yn annog ystod o wahanol fathau o chwarae.
  4. darparu ystod eang o brofiadau chwarae maen nhw’n cynnig gwerth chwarae mwy o lawer i blant. Mae mannau chwarae gyda lle i eistedd, cysgod a chyfleoedd i greu a rhedeg o gwmpas yn fwy gwerthfawr nag ardaloedd â ffens gadarn o’u hamgylch gydag ychydig ddarnau o offer.
  5. yn hygyrch i blant anabl a phlant sydd ddim yn anabl – mae hyn yn golygu mwy na dim ond darparu mynediad i gadeiriau olwyn. Mae elfennau naturiol fel pyllau tywod a mwd yn caniatáu i blant sydd yn cael trafferth symud i ymgysylltu â’r byd naturiol a mwynhau symbyliad synhwyraidd. Mae llethrau serth yn darparu her bleserus i blant sy’n treulio eu bywydau ar dir mwy gwastad.
  6. yn ateb anghenion y gymuned mae man chwarae’n cael ei ystyried fel gofod ar gyfer y gymuned gyfan a dylid ei ystyried fel un. Mae rhieni a neiniau a theidiau, a mam-guod a thad-cuod yn defnyddio’r gofod hefyd, felly mae’n bwysig bod y gymuned gyfan yn rhan o’i ddatblygu
  7. yn caniatáu i blant o wahanol oedrannau chwarae gyda’i gilydd mae bywydau plant yn aml yn cael eu strwythuro yn ôl grwpiau oedran, yn enwedig yn yr ysgol. Mae plant iau yn dysgu orau am y byd oddi wrth blant hŷn. Mae plant hŷn yn elwa hefyd, gan brofi teimladau cadarnhaol o gyfrifoldeb ac empathi wrth chwarae gyda phlant iau. Mae dylunio mannau chwarae deallus yn caniatáu i blant gymysgu hyd yn oed os yw elfennau penodol yn y gofod yn fwy deniadol i blant ar gyfnodau datblygiadol penodol.
  8. yn cynnwys cyfleoedd i brofi risg a her mae plant yn dysgu o brofiad ac mae cymryd risgiau bychan yn datblygu’r dysg hwn. Mae cyfleoedd i falansio a dringo a symud o gwmpas ar dir anwastad i gyd yn cynyddu sgiliau, doniau a hyder plant.
  9. yn gynaliadwy ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n gywir waeth beth yw maint y man chwarae, mae angen bod â chynlluniau yn eu lle o’r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau y bydd y gofod yn cael ei gynnal a’i gadw a’i warchod i’r dyfodol.
  10. yn caniatáu ar gyfer newid ac esblygiad mae plant yn hoffi gallu newid eu hamgylchedd er mwyn ei gadw’n ffres a chyffrous. Mae gwahanol ffyrdd o wneud hyn yn bosiblsicrhau bod eitemau y gellir eu symud, cynnwys elfennau naturiol, a datblygu’r gofod dros gyfnod maith fel ei fod yn esblygu yn hytrach na chyrraedd wedi’i gwblhau un diwrnod a byth yn newid.

 

Gofalu am fan chwarae

Mae mannau chwarae angen rhaglen reolaidd o gynnal a chadw ac archwiliadau. Bydd mynychder archwiliadau’n amrywio’n seiliedig ar faint y gofod, cyfanswm yr offer, a’r lleoliad a’r adnoddau sydd ar gael. Gall archwiliadau gynnwys:

  • Gwiriadau cynnal a chadw gwiriadau gweledol dyddiol neu wythnosol ynghyd â chlirio sbwriel a llanast.
  • Archwiliadau gweithredol arferol bob tua thri mis i brofi unrhyw rannau sy’n symud ac offer.
  • Archwiliadau technegol blynyddol a argymhellir gan Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru (RoSPA) yn ogystal â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), cynhelir yr archwiliadau technegol hyn unwaith y flwyddyn gan arolygydd meysydd chwarae annibynnol, proffesiynol gymwys.

 

Cysyllter â’r Register of Play Inspectors International (RPII) am restr o arolygwyr sy’n gweithio yng Nghymru.

Ymrwymiad Cymru i feysydd chwarae a lleoliadau chwarae di-fwg

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i ysmygu mewn meysydd chwarae, ar dir ysgolion a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant.

Daeth y ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2021. Mae rhaid i feysydd chwarae yng Nghymru fod yn ddi-fwg, ac felly hefyd dir ysgolion, gofal dydd awyr agored a lleoliadau gwarchod plant.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi’r hyn y mae angen i’r rhai sy’n gyfrifol am y lleoliadau di-fwg ei wneud. Er enghraifft, mae rhaid i’r rheolwr neu’r person sy’n gyfrifol am y lleoliad gymryd camau rhesymol i stopio unrhyw un sy’n ysmygu yno.

Mae rhaid gosod arwyddion ‘Dim Ysmygu’ mewn meysydd chwarae ac ar dir ysgolion. Fodd bynnag,nid oes rhaid arddangos arwyddion mewn lleoliadau gofal awyr agored. Mae gan Lywodraeth Cymru arwyddion addas ar gael a gallwch ddysgu mwy ar-lein.

Adnoddau

Datblygu a rheoli mannau chwarae 

Mae’r pecyn cymorth hwn yn anelu i gefnogi cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol sydd â diddordeb datblygu a rheoli mannau chwarae. Mae’n cynnwys gwybodaeth ac arfau defnyddiol iw defnyddio wrth ymgysylltu gyda phlant a chymunedau.

 

Creu mannau chwarae hygyrch

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i ddylunio i ddarparu gwybodaeth fydd yn helpu gyda chreu mannau ble gall pob plentyn chwarae. Mae’n anelu i gefnogi’r bobl hynny sy’n datblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch.  

 

Cynllunio dy ardal chwarae

Mae ein gwefan Plentyndod Chwareus yn anelu i gefnogi grwpiau lleol wrth greu a chynnal a chadw cymdogaethau chwarae-gyfeillgar yn eu hardaloedd. Mae’r adran ‘Cynllunio dy ardal chwarae’ yn cynnwys syniadau ymarferol i helpu cymunedau i gynllunio eu mannau chwarae eu hunain.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors