Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Hawl i chwarae

Archwiliwch

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Mae hyn yn golygu pob plentyn unigol, waethbeth yw ei ddiwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen.

 

Mae’r hawl i chwarae’n cael ei dderbyn yn fyd-eang a chaiff ei amlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant ac arddegwyr (dan 18 oed).

Mae Erthygl 31 y confensiwn yn datgan: ‘Mae gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae ac adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau heb unrhyw rwystr.’

Hawl i chwarae yng Nghymru

Mae CCUHP yn gytundeb rhyngwladol sy’n rhwymo mewn cyfraith ac mae’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r polisi chwarae cyntaf yn y byd. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor bod CCUHP yn cydnabod pwysigrwydd chwarae.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn amddiffyn hawliau plant. Mae plant wedi dweud wrth bob comisiynydd bod chwarae’n bwysig iddyn nhw ar gyfer plentyndod hapus ac maen nhw’n dal i ddweud hyn.

Grŵp Monitro CCUHP Cymru

Mae Chwarae Cymru yn aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru. Mae’r gynghrair genedlaethol hon o sefydliadau amllywodraethol ac academaidd yn monitro a hyrwyddo CCUHP yng Nghymru ac yn cynhyrchu a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r adroddiadau hyn, sy’n cynnwys adrannau ar chwarae, yn dangos faint mae cyfraith, polisi ac arfer yng Nghymru wedi ymateb i Sylwadau Terfynol y Pwyllgori Lywodraeth y DU

 

Polisi rhyngwladol

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ystyried bod chwarae’n hynod o bwysig ac, o’r herwydd, mabwysiadodd Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 o CCUHP.

Mae Sylw Cyffredinol yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr elfen o CCUHP sydd angen dehongliad neu bwyslais pellach. Nod y Sylw Cyffredinol hwn, a gynhyrchwyd gan Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, yw egluro pwysigrwydd Erthygl 31. Mae hefyd ynanelu i gynyddu atebolrwydd ymysg gwledydd sydd wedi arwyddo’r Confensiwn.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn diffinio chwaraefel ymddygiad, gweithgaredd neu broses gaiff ei sbarduno, ei rheoli a’i strwythuro gan blant. Bydd chwarae’n digwydd pryd bynnag a ble bynnag y bydd cyfle’n codi.  

Amcanion Sylw Cyffredinol rhif 17 yw:

  • cyfoethogi dealltwriaeth am bwysigrwydd Erthygl 31, er lles a datblygiad plant, ac er mwyn cyflawni hawliau eraill a geir yn y Confensiwn.
  • egluro’r darpariaethau a’r oblygiadau sy’n gysylltiedig ag Erthygl 31.
  • darparu arweiniad ar y mesurau deddfwriaethol, barnwrol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol sy’n angenrheidiol er mwyn i Erthygl 31 gael ei gweithredu er mwyn pob plentyn yn ddiwahân.

 

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn ddefnyddiol iawn yn rhestru nodweddion allweddol chwarae:

  • hwyl
  • ansicrwydd
  • her
  • hyblygrwydd
  • bod yn anghynhyrchiol.

 

Adnoddau

Ffilm IPA am hawl plant i chwarae

Mae’r International Play Association (IPA) wedi cynhyrchu ffilm fer fywiog i ddathlu a hyrwyddo hawl plant i chwarae.

 

Gweithdy hawl i chwarae

Mae hwn yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn anelu ialluogi plant a phlant yn eu harddegau i ddadlau dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’uffrindiau. Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyrcyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w ddefnyddio mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors