Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Cymwysterau a hyfforddiant

Archwiliwch

Mae’r sector gwaith chwarae’n cwmpasu nifer o wahanol broffesiynau, y gallai llawer ohonynt elwa o hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae. Waeth beth yw eich diddordeb mewn gwaith chwarae, gall Chwarae Cymru eich helpu i ddod o hyd i’r dysg sy’n gywir i chi.

Am gymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith

Mae Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) yn gyfres o dri chymhwyster, y mae pob un yn graddol ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gwaith chwarae pobl.

Mae’r tri chymhwyster hwn wedi eu dylunio i ddarparu llwybr effeithiol i gymhwyso fel gweithwyr chwarae. Os ydych chi’n weithiwr chwarae sydd heb gymhwyso pan fyddwch chi’n cychwyn, bydd cwblhau’r tri yn eich cymhwyso i weithio fel uwch-weithiwr chwarae neu reolwr gwaith chwarae.

  • Agored Cymru – Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) – mae’r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i waith chwarae. Dyma’r gofyniad mynediad ar gyfer llwybr P3 ac mae rhaid ei gwblhau’n llwyddiannus cyn symud ymlaen i’r cymwysterau eraill yn y gyfres. Fel cymhwyster annibynnol, mae’n addas hefyd ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae gwyliau. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae, cynhwysiant, theori gwaith chwarae a chreu mannau i chwarae.
  • Agored Cymru – Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith – mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio i ateb anghenion gweithwyr chwarae sy’n gweithio wyneb-yn-wyneb trwy gydol y flwyddyn mewn nifer o wahanol leoliadau. Mae’n cynnwys gwybodaeth am arfer myfyriol, diogelu, gweithio gydag eraill a sgiliau gwaith chwarae ymarferol.
  • Agored Cymru – Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith – y cwrs hwn yw’r cam ymlaen nesaf wedi’r Dystysgrif Lefel 2 ac mae wedi ei anelu at oruchwylwyr a rheolwyr gwaith chwarae. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddatblygu cymunedol, rheoli risg, deddfwriaethau a gweithio gyda theuluoedd.

Mae Chwarae Cymru wedi gweithio’n agos gydag Agored Cymru, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a’r sector gwaith chwarae i ddatblygu’r cymwysterau hyn.

Cymwysterau gwaith chwarae eraill Agored Cymru

Yn ogystal â llwybr cynnydd P3, mae cymwysterau gwaith chwarae eraill sy’n addas ar gyfer y bobl hynny sy’n meddu ar gymwysterau eraill eisoes mewn gweithio gyda phlant, fel gofal plant neu addysg. Mae’r cymwysterau gwaith chwarae eraill hyn yn rhoi cyflwyniad defnyddiol i chwarae a gwaith chwarae hefyd.

  • Agored Cymru – Gwaith Chwarae Lefel 1 – cwrs hyfforddiant rhagarweiniol ar gyfer pobl sydd am ennill gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae plant a sut y bydd gweithwyr chwarae’n gweithio â phlant. Nid yw hwn yn cymhwyso dysgwyr i weithio mewn lleoliad gwaith chwarae cofrestredig.
  • Agored Cymru – Dyfarniad Lefel 3 Rheoli Cynlluniau Chwarae’n Ystod Gwyliau’r Ysgol (MAHPS) – Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 arall mewn gweithio â phlant. Mae wedi ei ddatblygu’n bennaf i helpu pobl sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae gwyliau i ychwanegu gwybodaeth a sgiliau gwaith chwarae i gymhwyster lefel 3 mewn gweithio gyda phlant sydd ganddynt eisoes.
  • Agored Cymru – Gwobr Lefel 3 mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) – Mae hwn yn gwrs hyfforddi’r hyfforddwr ar gyfer tiwtoriaid gwaith chwarae. Dyma hefyd y cymhwyster isaf posibl y mae Chwarae Cymru’n gofyn i diwtoriaid feddu arno er mwyn trosglwyddo llwybr cynnydd P3.

Cymwysterau gofynnol i weithio mewn lleoliad cofrestredig

Os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), bydd angen ichi feddu ar y cymhwyster cywir.

Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Rydym yn annog pawb sy’n gweithio gyda phlant i wella eu gwybodaeth am chwarae plant yn barhaus. Gall ein digwyddiadau a’n cyhoeddiadau helpu gyda hyn.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyfforddiant neu’r cyfle datblygiad proffesiynol yr ydych yn chwilio amdano, cofiwch gysylltu gyda ni. Gallwn helpu i’ch cyfeirio at hyfforddiant addas. Gallwn hefyd ddatblygu hyfforddiant sy’n darparu’r hyn yr ydych ei angen.

 

Adnoddau

Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru

Mae’r canllaw cryno hwn ar gyfer gweithwyr chwarae, cyflogwyr a rheolwyr. Mae’n cyflwyno trosolwg o’r cymwysterau gwaith chwarae sydd ar gael ac mae’n egluro’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithwyr chwarae a rheolwyr yng Nghymru.

 

Mynegi diddordeb am gymwysterau gwaith chwarae

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cwbhlau unrhyw un o’n cymwysterau gwaith chwarae, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda, gan roi gymaint o wybodaeth a phosib. Yna, bydd un o’n Canolfannau Cymwysterau’n cysylltu gyda chi pan gynhelir cwrs a ariennir yn eich ardal chi.

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
5. Ym mha awdurdod lleol hoffech chi gwblhau eich cymhwyster?
Pa gymhwyster sydd gennych ddiddordeb ei astudio? (Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy nag un, cofiwch nodi yr un yr hoffech ei gwblhau’n gyntaf)
I ddod o hyd i gwrs i chi mae angen i ni rannu eich manylion. Ticiwch y blwch hwn i gadarnhau eich bod yn hapus i ni rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych gydag un o'n Canolfannau Cymwysterau Cymeradwy.

Cysylltwch â ni

I ddysgu mwy am gymwysterau a hyfforddiant gwaith chwarae, cofiwch ein e-bostio.

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors