Gwaith Chwarae
Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
Archwiliwch
Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n diffinio’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae ac yn cyflwyno dealltwriaeth gytûn o’r hyn y mae gweithwyr chwarae’n ei wneud.
Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn cydnabod yr effaith y mae mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae’n ei gael ar allu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol.
Am Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae’r gyfres hon o wyth o egwyddorion yn disgrifio:
- yr hyn sy’n arbennig ac unigryw am chwarae (Egwyddorion Gwaith Chwarae 1 a 2)
- yr agwedd gwaith chwarae tuag at weithio gyda phlant a phobl ifanc (Egwyddorion Gwaith Chwarae 3 i 8).
Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn berthnasol i bob plentyn.
Fe’u datblygwyd gan Grŵp Craffu yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, a sefydlwyd gan Chwarae Cymru, mewn ymgynghoriad â sector gwaith chwarae’r DU a’u mabwysiadu yn 2005.
Ers hynny, mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi mynd ymlaen i fod yn sail ar gyfer Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y DU ar gyfer gwaith chwarae ac maent wedi hysbysu datblygiad a throsglwyddiad cymwysterau yng Nghymru a’r DU. Yn ogystal, mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi eu mabwysiadu’n eang yn rhyngwladol.
Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae’r Egwyddorion yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hyn o beth dylid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae’r Egwyddorion wedi eu seilio ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei gyfoethogi o dderbyn mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.
- Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae’r awydd i chwarae’n un greddfol. Mae chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae’n hanfodol i ddatblygiad iach a lles unigolyn a chymunedau.
- Mae chwarae yn broses a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid. Hynny yw, y plant a’r bobl ifanc fydd yn penderfynu a rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae, trwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
- Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso’r broses chwarae a dylai hyn hysbysu datblygiad polisi chwarae, strategaeth, hyfforddiant ac addysg.
- I weithwyr chwarae, y broses chwarae fydd flaenaf a bydd gweithwyr chwarae’n gweithredu fel eiriolwyr dros chwarae pan yn ymwneud ag agendâu gaiff eu harwain gan oedolion.
- Rôl y gweithwyr chwarae yw cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu gofod ble y gallant chwarae.
- Caiff ymateb gweithwyr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ei seilio ar wybodaeth gyfredol, gref o’r broses chwarae, ac arfer myfyriol.
- Mae gweithwyr chwarae’n cydnabod eu heffaith eu hunain ar y gofod chwarae yn ogystal ag effaith chwarae plant a phobl ifanc ar y gweithwyr chwarae.
- Bydd gweithwyr chwarae’n dewis arddull ymyrryd sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Dylai ymyrraeth gweithwyr chwarae bob amser daro cydbwysedd rhwng y risg â’r budd datblygiadol a lles plant.
Sylwer: Caiff Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedolaeth i broffesiwn gwaith chwarae’r DU gan y Grŵp Craffu a weithredodd fel brocer teg i oruchwylio’r ymgynghoriadau ble y datblygwyd yr Egwyddorion.
Nid yw’r datganiad hawlfraint ar gyfer y wefan hon yn cyfeirio at yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, ac nid yw hawlfraint yr Egwyddorion Gwaith Chwarae’n perthyn i Chwarae Cymru. Caiff yr hawlfraint ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y proffesiwn gwaith chwarae gan Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Dylid tadogi unrhyw gyfeiriad, yn ysgrifenedig neu fel arall, at yr Egwyddorion Gwaith Chwarae i Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, Caerdydd 2005.