Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Cymwysterau sydd eu hangen

Archwiliwch

Er mwyn gweithio mewn lleoliad chwarae neu ofal plant a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), bydd rhaid ichi feddu ar y cymwysterau priodol ar gyfer rôl eich swydd.

Mae angen cymwysterau gwaith chwarae ar unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant oedran ysgol mewn lleoliad ar ôl ysgol neu fynediad agored a reoleiddir. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch angen cymhwyster gwaith chwarae yn ogystal â chymhwyster gofal plant:

  • Fel arfer, bydd pobl sy’n gweithio gyda phlant ond sydd ddim yn rheolwyr angen meddu ar gymhwyster lefel 2.
  • Fel arfer, bydd pobl sy’n gweithio fel rheolwyr angen meddu ar gymhwyster lefel 3.

Bydd eich rôl a’r cymwysterau eraill yr ydych yn meddu arnynt eisoes yn effeithio ar ba gymwysterau sydd fwyaf addas i chi.

Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) sy’n penderfynu pa gymwysterau sydd eu hangen ym mha sefyllfa.

Adnoddau

Llifsiart Cymwysterau Gwaith Chwarae

Rydym wedi datblygu llifsiart i’ch helpu i benderfynu pa gymwysterau sydd orau i chi. Mae hyn yn seiliedig ar y math o leoliad yr ydych yn gweithio ynddo a rôl eich swydd.

 

Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru

Mae’r rhestr hon yn darparu arweiniad ar y cymwysterau galwedigaethol gofynnol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant o dan 12 oed yn y sector gwaith chwarae. Mae’r arweiniad yma’n cael ei anelu at:

  • gyflogwyr
  • ymarferwyr
  • darparwyr hyfforddiant
  • cyrff rheoleiddiol.

 

Cymwysterau blynyddoedd cynnar a gofal plant

Mae fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yn amlinellu’r gofynion cymwysterau craidd ar gyfer:

  • gwarchodwyr plant cofrestredig
  • pobl sy’n gweithio mewn gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol a chyfleusterau crèche.

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors