Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Sefydliadau diwylliannol

Archwiliwch

Yn ogystal â chydnabod yr hawl i chwarae, mae Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod hefyd hawl plant i weithgareddau hamdden, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

 

Yn Sylw Cyffredinol rhif 17, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn tanlinellu’r mater hwn:

‘Mae cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau yn elfen bwysig o ymdeimlad plant o berthyn. Bydd plant yn etifeddu ac yn profi bywyd diwylliannol ac artistig eu teulu, eu cymuned a’u cymdeithas, a thrwy’r broses honno, maent yn darganfod ac yn ffurfio eu hymdeimlad o’u hunaniaeth eu hunain ac, yn eu tro, yn cyfrannu at symblyu a chynaladwyedd bywyd diwylliannol a chelfyddydau traddodiadol’.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn datgan bod:

Cyfranogi mewn gweithgareddau diwylliannol ac artistig yn angenrheidiol ar gyfer ffurfio dealltwriaeth plant o’u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill, ac mae rhyngweithio chwareus gyda sefydliadau a thraddodiadau diwylliannol yn ehangu gorwelion, yn cyfrannu at gyd-ddealltwriaeth ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Bydd plant yn creu a phasio diwylliant ymlaen trwy chwarae dychmygus, chwaraeon, dawns, straeon, gemau a gwyliau’.

Gall amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol eraill gynnig cyfle i blant fwynhau eu hawl i chwarae, ochr yn ochr â gweithgareddau hamdden, a bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

Mae gan amgueddfeydd, orielau, safleoedd treftadaeth a chanolfannau diwylliannol gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth o blant a theuluoedd fel ymwelwyr. Mae’r sector diwylliannol mewn sefyllfa dda i wneud eu gofodau a’u lleoliadau’n groesawus i blant a’u teuluoedd trwy gynnig cyfleoedd iddynt chwarae.

Gall newidiadau bychan wneud gwahaniaeth mawr er enghraifft, creu grid sgots neu olion traed ar lawr, sy’n gwahodd bod yn chwareus ac i symud o amgylch y lleoliad. Yn ogystal, gall ychwanegu deunyddiau chwarae rhannau rhydd i leoliadau diwylliannol annog plant ichwarae.

Mae’n dda i blant a’u teuluoedd gael cyfleoedd i chwarae a bod yn chwareus. Mae’r cyfleoedd hyn o fudd i leoliadau a chanolfannau diwylliannol hefyd. Mae buddiannau’n cynnwys:

  • Gwella lles plant a theuluoedd
  • Mwynhad plant o’u hawliau Erthygl 31 diolch i gefnogaeth y lleoliad neu’r ganolfan
  • Cynnydd mewn ymgysylltiad ymwelwyr
  • Busnes gwell i leoliadau a chanolfannau, denu mwy o ymwelwyr newydd ac eildro
  • Creu mannau cymdeithasol, bywiog sy’n annog chwarae ac ymgysylltu.

 

Adnoddau

Chwarae dros GymruMannau chwareus

Mae rhifyn Gaeaf 2022 ein cylchgrawn yn tynnu sylw at enghreifftiau o fynediad plant i enydau chwareus mewn nifer o wahanol fannau. Mae’n cynnwys erthyglau sy’n edrych ar chwarae mewn atyniadau i deuluoedd, fel sŵau ac amgueddfeydd.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors