Chwarae
Diwrnod Chwarae
Y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Mae Diwrnod Chwarae’n ddathliad blynyddol o hawl plant i chwarae.

Cynhelir y Diwrnod Chwarae nesaf ar Ddydd Mercher 5 Awst 2026
Sefydlwyd Diwrnod Chwarae yn 1987 ac fe’i cynhelir ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst.
Mae’n ymgyrch barhaus sy’n pwysleisio pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, sy’n canolbwyntio ar fater penodol bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae gan Diwrnod Chwarae thema benodol sy’n tynnu sylw at fater penodol neu agwedd o chwarae plant – er enghraifft:
- annog pawb i roi mwy o amser a rhyddid i blant chwarae
- adennill y strydoedd er mwyn i blant allu chwarae’n ddiogel y tu allan i’w cartrefi.
Am wybodaeth ar ymgyrchoedd y gorffennol, ewch i wefan Playday.
Yn Chwarae Cymru, mae Diwrnod Chwarae’n rhoi cyfle gwerthfawr inni bob blwyddyn i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant ar angen am ddarpariaeth chwarae o safon. Rydym yn defnyddio Diwrnod Chwarae i danlinellu’r ffaith bod chwarae’n bwysig a bod angen darpariaeth chwarae o safon bob diwrnod o’r flwyddyn ym mhob ardal o Gymru.
Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Play England, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland a Chwarae Cymru.
Thema Diwrnod Chwarae 2026
Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw…
Chwarae – yma, acw a phobman
Mae’r thema eleni’n pwysleisio pwysigrwydd creu cyfleoedd i blant chwarae ble bynnag y maen nhw. Mae chwarae’n digwydd yma, acw a phobman, o ystafelloedd byw i gatiau’r ysgol, i strydoedd, parciau, a chymdogaethau. Mae’n rhan o fywyd bob dydd plant, ac mae’n cael effaith aruthrol ar eu hapusrwydd, eu hiechyd, a’u lles. Pan gefnogir plant i chwarae yn y gofodau bob dydd hyn, rydym yn helpu i feithrin canlyniadau cadarnhaol, a chreu cymunedau ble y gall plant ffynnu.
Ar Diwrnod Chwarae eleni, rydym yn gofyn i bob plentyn gael mynediad i:
- enydau chwareus. Gall enydau bychain o chwarae, gartref ac allan yn y byd mawr, trwy gydol y diwrnod wneud gwahaniaeth mawr i fywydau bob dydd plant.
- anturiau bob dydd. ’Does dim rhaid i chwarae olygu gweithgareddau drud, teganau costus, neu deithiau arbennig i gyrchfannau pell, yn aml iawn y syniadau rhad ac am ddim, symlaf fydd yn fwyaf o hwyl.
- chwarae wrth ymlwybro o amgylch y gymdogaeth. Gall gwneud siwrneiau bob dydd, i’r ysgol, y feithrinfa, y siopau neu’r parc, yn fwy chwareus a chyfeillgar at blant fod yn bleserus i bawb.
- amgylcheddau cynhwysol a chroesawus. Bydd mannau a gofodau ble mae plant o bob oed a gallu’n teimlo eu bod yn perthyn, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w mwynhad o chwarae.
Cymryd rhan
Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2025 a #MannauIChwarae.
Mae’n Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer rhoi digon o amser, lle a rhyddid i blant chwarae ar Ddiwrnod Chwarae. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn wedi eu hanelu at bobl sy’n gweithio ym mhob lleoliad ble mae plant yn chwarae.