Mae ein gwasanaeth hysbysebu swyddi sy’n ymwneud â chwarae yn rhad ac am ddim i unigolion a sefydliadau sydd am hysbysebu swyddi yn y DU.
Caiff hysbysebion eu gosod ar y wefan o fewn wythnos inni eu derbyn a’u dileu wedi i’r dyddiad cau basio.
Caiff pob hysbyseb ei gwirio cyn ei gosod ar y wefan. Sylwer – gan nad yw Chwarae Cymru yn asiantaeth recriwtio, ni allwn fynd i unrhyw drafodaethau nac ymateb i unrhyw ohebiaeth am swyddi a hysbysebir yma.
Os hoffech hysbysebu swydd sy’n ymwneud â chwarae yn rhad ac am ddim, e-bostiwch y testun atom – yn Gymraeg a Saesneg os yn bosibl. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys y manylion perthnasol i gyd, yn cynnwys:
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn recriwtio Cynghorydd Polisi – anfonwch eich cais erbyn 1 Rhagfyr 2023.
Mae Roots Children’s Community Project yn recriwtio Hwylusydd – darllenwch fwy i anfon eich cais.
Mae The Joshua Tree yn recriwtio Gweithwyr Chwarae Plant Banc – mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn parhaus.
Mae Cyngor Sirol Bwrdeistref Torfaen yn recriwtio i'w Gwasanaeth Chwarae.