Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Darpariaeth gwaith chwarae cofrestredig

Archwiliwch

Mae darpariaeth gwaith chwarae’n cynnig cyfleoedd i blant chwarae mewn lleoliad sydd wedi’i staffio gan weithwyr chwarae hyfforddedig. Gall gynnig cyfleoedd na fydd plant yn eu cael pan maen nhw’n chwarae mewn mannau eraill, fel gartref neu yn yr ysgol.

Mae gweithwyr chwarae’n gweithio mewn nifer o wahanol fannau, yn cynnwys:

  • meysydd chwarae antur wedi’u staffio
  • clybiau ar ôl ysgol (gofal plant y tu allan i oriau ysgol)
  • cynlluniau chwarae gwyliau
  • ysgolion
  • prosiectau chwarae rhiniog drws – fel chwarae stryd
  • prosiectau rhodwyr chwarae (peripatetig) – a gynhelir, er enghraifft, mewn parciau cyhoeddus.

Gall darpariaeth chwarae wedi’i staffio ddigwydd ar wahanol adegau o’r dydd a’r flwyddyn, yn dibynnu ar anghenion y gymuned a’r cyllid sydd ar gael. Mae’r gwahanol adegau’n cynnwys:

  • Ar ôl ysgol – wedi ei leoli yn yr ysgol neu’r gymuned
  • Yn ystod oriau ysgol – er enghraifft, prosiectau gwaith chwarae ysgol, unedau cyfeirio disgyblion neu grwpiau addysg yn y cartref
  • Penwythnosau – mewn nifer o wahanol leoliadau
  • Gwyliau – fel cynlluniau chwarae gwyliau.

Darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored

Mae lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored yn cael eu staffio gan weithwyr hyfforddedig. Mae’r lleoliadau hyn, fel arfer, yn cael eu rhedeg gan gynghorau lleol neu grwpiau cymunedol. Gallant fod yn barhaol neu dymhorol (er enghraifft cynlluniau chwarae gwyliau) a chael eu cynnal mewn amrywiol leoliadau’n cynnwys:

  • meysydd chwarae antur
  • parciau
  • mannau agored yn y gymuned
  • adeiladau – fel canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden.

Mewn darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored, mae gweithwyr chwarae’n goruchwylio plant, gan anelu i’w cefnogi fel y gallant ddewis beth i’w chwarae a gyda phwy i chwarae. Y rhieni sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr y gall eu plant fynd i ac o’r lleoliad yn ddiogel. Fel arfer, caniateir i blant sy’n gallu mynd a dod i’r lleoliad ar eu pen eu hunain i wneud hynny.

Pan mae’r term ‘mynediad agored’ yn ymwneud â lleoliadau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), mae’r ddarpariaeth ar gyfer plant dan 12 mlwydd oed. Ond bydd lleoliadau mynediad agored yn darparu yn aml ar gyfer ystod oedran eangach, yn cynnwys plant yn eu harddegau a phlant dan bump oed y mae eu rhieni’n aros ar y safle.

 

Darpariaeth gofal plant y tu allan i oriau ysgol

Mae darpariaeth gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn ofal plant a ddarperir y tu allan i oriau ysgol. Mae’n cynnwys gofal cyn amser ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn helpu rhieni a gofalwyr i ddychwelyd i’r gwaith neu hyfforddiant tra bod eu plant yn mwynhau darpariaeth sydd â ffocws ar chwarae, wedi’i staffio gan weithwyr chwarae cymwysedig.

Fel arfer, caiff gofal plant y tu allan i oriau ysgol ei redeg mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol ac mae’n ymateb i anghenion lleol. Gelwir y cymwysterau ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio yn y lleoliad hwn yn gymwysterau gwaith chwarae.

Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Os yw lleoliadau chwarae neu ofal plant ar agor am fwy na dwy awr y dydd neu fwy na phum diwrnod y flwyddyn, mae rhaid iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae angen cymwysterau gwaith chwarae ar gyfer pob darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored a gofal plant y tu allan i oriau ysgol cofrestredig. Mae rhaid i leoliadau a reoleiddir gan AGC weithio’n unol â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Adnoddau

Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae rhaid i leoliadau gofal plant a reoleiddir gyflawni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed.

 

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors