Mae’r adran hon yn manylu ar ein polisïau sefydliadol yn Chwarae Cymru.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd pawb sy’n defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaethau. Darllenwch ein Polisi Diogelu Data i weld sut byddwn yn defnyddio a gwarchod y wybodaeth y byddwch yn ei darparu.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod eich gwybodaeth bersonol:
Mae Chwarae Cymru’n credu bod gan bawb hawl i gael eu trin â pharch ac urddas. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu pob un o’n gwasanaethau mewn modd teg a chyfiawn.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg, diduedd a gwrthrychol ac amgylchedd gwaith sy’n rhydd rhag aflonyddu ac erledigaeth.
Mae Chwarae Cymru yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o’r mudiad. I sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel, ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys, mae Chwarae Cymru wedi arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru.
Mae Chwarae Cymru’n ceisio sicrhau ein bod yn rhedeg yr elusen mewn modd cynaliadwy.
Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu gwasanaethau o safon i bob un o’n defnyddwyr. Ond, os ydych yn anfodlon gyda’r modd y cawsoch eich trin neu gydag ansawdd ein gwasanaeth, cofiwch ddweud wrthym.
Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy’n dymuno cynnal eu busnes â ni trwy gyfrwng y Gymraeg, boed yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae pob un o’n llythyrau cyffredinol a’n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.