Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Fel eiriolwr dros chwarae, mae’n bwysig bod Chwarae Cymru’n cyfrannu at ystod eang o ddadleuon a phenderfyniadau polisi sy’n ymwneud â chwarae yng Nghymru, yn ogystal â gyda phartneriaid ledled y DU ac yn rhyngwladol.

 

Yn yr adran hon cewch hyd i wybodaeth am:

 

  • Polisi chwarae yng Nghymru
  • Hanes polisi chwarae yng Nghymru
  • Digonolrwydd cyfleoedd chwarae
  • Astudiaethau ymchwil sy’n ymwneud â pholisi chwarae

Cymru a'r DU

Polisi chwarae yng Nghymru ac ar draws y DU

Yng Nghymru

Mae Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) wedi cefnogi chwarae plant ers ei sefydlu yn 1999.

 

Yn 2000, dosbarthodd Senedd Cymru Grant Chwarae gwerth £1m i awdurdodau lleol. Fe wnaeth hefyd gomisiynu adolygiad o chwarae mynediad agored yng Nghymru, yn edrych ar sut y gwariodd awdurdodau lleol y Grant Chwarae. Galwodd adroddiad Cyflwr Chwarae: adolygiad o ddarpariaeth chwarae mynediad agored yng Nghymru a chynllun grant Chwarae 2000 am bolisi a strategaeth chwarae genedlaethol.

 

Ar lefel genedlaethol, mae Chwarae Cymru wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei Bolisi Chwarae, Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae, deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau. Fe wnaethom hefyd ddrafftio’r adroddiad ar gyfer Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Chwarae (2022) a’r papur cefndir cysylltiedig.

 

Rhwng 2000 a 2012, fe gynhaliom adolygiadau cenedlaethol Cyflwr Chwarae. Defnyddir y dogfennau strategol hyn gan Chwarae Cymru a Llywodraeth Cymru i archwilio materion sy’n ymwneud â chwarae plant yng Nghymru. Eu pwrpas oedd darparu gwybodaeth am:

 

  • sut y mae amrywiol bolisïau a rhaglenni ariannu cenedlaethol wedi cefnogi darpariaeth chwarae ar lefel leol
  • materion cyffredin sy’n ymwneud â chwarae plant.

 

Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i basio cyfraith ar gyfleoedd i chwarae. Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn amod cyfreithiol i awdurdodau lleol gynnal Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh). Cyflwynwyd y cyntaf o’r ADCh teirblynyddol hyn i Lywodraeth Cymru yn 2013.

 

Ers 2013, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu ac adrodd ar ADCG, adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu awdurdodau lleol.

Yn y DU

Fel aelodau o’r UK Children’s Play Policy Forum (CPPF) a’r UK Play Safety Forum (PSF) y DU, mae Chwarae Cymru’n cyfrannu at waith polisi’r DU. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cenedlaethol eraill yn y DU sydd â diddordeb mewn chwarae plant neu ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae.

 

UK Children’s Play Policy Forum

 

Mae’r fforwm hon yn gweithio i eiriol dros, i hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth pobl am bwysigrwydd chwarae plant a darpariaeth chwarae gynhwysol o safon. Mae’n gwneud hyn trwy weithio gyda llywodraethau lleol, cenedlaethol a datganoledig, a gyda’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat trwy’r DU i:

 

  • ddarparu llwyfan ar gyfer trafod a rhwydweithio i unrhyw un sy’n gysylltiedig â chwarae
  • cefnogi aelodau i weithio gydag ac i lobïo llywodraethau’r pedair gwlad i droi Erthygl 31 yn realiti, ynghyd ag erthyglau perthynol eraill o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
  • cynrychioli’r safbwyntiau amrywiol sy’n bodoli yn y sectorau chwarae a gwaith chwarae
  • lobïo ar ran y sector chwarae i atgyfnerthu ymrwymiad i chwarae.

 

UK Play Safety Forum

Mae’r fforwm hon yn hyrwyddo taro cydbwysedd rhwng diogelwch, risg a her mewn darpariaeth chwarae a hamdden. Mae’n dynodi, datblygu a darparu cyngor ac arweiniad sy’n:

 

  • pennu a hybu agwedd cytbwys ac ystyriol at risg, her, buddiannau a diogelwch
  • cynghori ar bolisi ac arfer sy’n berthnasol i risg-budd a diogelwch mewn mannau ble bydd plant yn chwarae
  • sicrhau bod cyngor ar gael i reolyddion, asiantaethau ac adrannau o’r llywodraeth.

 

Polisi chwarae yn rhyngwladol

Mae Chwarae Cymru’n aelod gweithgar o’r International Play Association (IPA). Mae hwn yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd yn 1961 i amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl plant i chwarae fel hawl dynol sylfaenol.

Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith chwarae byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA. Mae Chwarae Cymru yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth ar gyfer IPA Cymru Wales, a sefydlwyd fel cangen ar ddiwedd 2022.

 

Digonolrwydd chwarae 

Gwybodaeth am y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae sy’n gwarchod hawl plant i chwarae mewn cyfraith

Dysgu mwy
Ein hymchwil 

Ymchwil a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru am chwarae, gwaith chwarae a digonolrwydd chwarae

Dysgu mwy
Polisi chwarae cyfredol yng Nghymru

Polisïau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi creu Cymru chwarae-gyfeillgar ar hyn o bryd

Dysgu mwy
Hanes polisi chwarae yng Nghymru

Trosolwg a llinell amser hanes polisi chwarae yng Nghymru

Dysgu mwy
Yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae

Adolygiad cydweithredol tair blynedd Llywodraeth Cymru o’i gwaith polisi chwarae

Dysgu mwy
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors