Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Gweithio gyda phlant

Archwiliwch

Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod plant yn cael amser, lle a rhyddid i chwarae. Mae gweithlu cyfan sy’n helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Mae plant yn chwarae mewn llawer o wahanol leoedd, ble bynnag a phryd bynnag mae’r amodau’n gywir. Gall hyn fod dan do a’r tu allan, ac mae’n gynnwys mannau fel ysgolion, lleoliadau gofal plant ac ysbytai.

Mae’r gweithlu chwarae’r un mor amrywiol ac nid yw’r mwyafrif o bobl sy’n gweithio ynddo angen cymwysterau ffurfiol mewn chwarae.

Mae pobl y mae eu rôl yn effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar chwarae plant hefyd yn rhan o’rgweithlu chwarae. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gweithio mewn:

 

Mae hefyd yn cynnwys pobl mewn meysydd eraill yn y gwasanaethau statudol, fel:

  • cynllunio
  • tai
  • mannau agored
  • parciau
  • gwasanaethau diwylliannol
  • gwasanaethau amgylcheddol
  • teithio
  • priffyrdd
  • datblygu cymunedol
  • hamdden
  • chwaraeon
  • yr heddlu
  • y gwasanaeth tân
  • cynghorau tref a chymuned.

 

Yn ogystal, mae gan amryw o weithwyr proffesiynol yn y trydydd sector rôl wrth gefnogi chwarae plant.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 31 yn amlinellu rôl bwysig oedolion wrthroi’r gefnogaeth y mae plant ei angen i gyflawni eu hawl i chwarae. Mae’n nodi:

  • Gall oedolion gefnogi datblygiad plant trwy ymgysylltu gyda nhw trwy chwarae.
  • Mae oedolion sy’n cyfranogi mewn chwarae plant yn ennill dirnadaeth a dealltwriaeth unigryw ar bersbectif plentyn.
  • Mae plant yn elwa o weithgareddau sy’n cynnwys oedolion. Fodd bynnag, mae’r buddiannau hyn yn llai os yw oedolion yn rheoli’r chwarae, gan danseilio ymdrechion plentyn i drefnu ac arwain eu gweithgareddau chwarae eu hunain.
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors