Cym | Eng

Chwarae

Diwrnod Chwarae

Archwiliwch

Y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Mae Diwrnod Chwarae’n ddathliad blynyddol o hawl plant i chwarae.

Cynhelir y Diwrnod Chwarae nesaf ar Ddydd Mercher 7 Awst 2024 

Sefydlwyd Diwrnod Chwarae yn 1987 ac fe’i cynhelir ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst.

Mae’n ymgyrch barhaus sy’n pwysleisio pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, sy’n canolbwyntio ar fater penodol bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae gan Diwrnod Chwarae thema benodol sy’n tynnu sylw at fater penodol neu agwedd o chwarae plant – er enghraifft:

  • annog pawb i roi mwy o amser a rhyddid i blant chwarae
  • adennill y strydoedd er mwyn i blant allu chwarae’n ddiogel y tu allan i’w cartrefi.

Am wybodaeth ar ymgyrchoedd y gorffennol, ewch i wefan Playday.

Yn Chwarae Cymru, mae Diwrnod Chwarae’n rhoi cyfle gwerthfawr inni bob blwyddyn i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant ar angen am ddarpariaeth chwarae o safon. Rydym yn defnyddio Diwrnod Chwarae i danlinellu’r ffaith bod chwarae’n bwysig a bod angen darpariaeth chwarae o safon bob diwrnod o’r flwyddyn ym mhob ardal o Gymru.

Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Play England, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland a Chwarae Cymru.

 

Thema Diwrnod Chwarae 2024

Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw:

Chwarae – diwylliant plentyndod
Cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch

Mae’r thema eleni’n dathlu diwylliant cyfoethog a bywiog chwarae plant. Mae pob plentyn yn chwarae – mae chwarëusrwydd yn nodwedd benodol o ymddygiad ar draws y cenedlaethau a diwylliannau. Mae chwarae’n cynhyrchu diwylliant plentyndod. Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a chreadigedd plant.

Trwy chwarae:

  • mae plant yn datblygu ymdeimlad o, ac yn gwerthfawrogi diwylliant
  • mae archwilio diwylliannol yn cael ei annog, gan feithrin gwerthfawrogiad am amrywiaeth
  • mae plant yn gweithio gyda’i gilydd, yn negydu, ac yn creu perthnasau
  • mae plant yn teimlo’n gysylltiedig i’w gilydd a’u cymdogaethau
  • mae plant yn creu ac yn pasio gemau, caneuon a straeon ymlaen.

Mae chwarae’n hawl i bob plentyn – ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd. Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn galw ar bawb – yn deuluoedd, gweithwyr chwarae, a phawb sy’n gweithio gyda phlant ar hyd a lled y DU, i ymuno gyda’i gilydd i feithrin diwylliant o gefnogi chwarae.

 

Cymryd rhan

Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2024 a #ChwaraeADiwylliant.

Mae’n Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer rhoi digon o amser, lle a rhyddid i blant chwarae ar Ddiwrnod Chwarae. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn wedi eu hanelu at bobl sy’n gweithio ym mhob lleoliad ble mae plant yn chwarae.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors