Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Chwarae ac iechyd

Archwiliwch

Pan mae plant yn chwarae, maent yn cyfrannu at eu lles ac at eu datblygiad eu hunain.  

 

Mae chwarae’n ganolog i bob agwedd o iechyd a lles plant:

  • yn gorfforol
  • meddyliol
  • cymdeithasol
  • emosiynol.

 

Mae casgliad hirsefydlog o dystiolaeth yn dangos y mathau o gyfraniad y gall chwarae, yn enwedig chwarae a drefnir yn bersonol, ei wneud i les uniongyrchol a thymor hir, iechyd corfforol, iechyd meddwl a gwytnwch plant. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd a lles da: mae bod yn actif trwy chwarae yn helpu plant yn gorfforol ac yn emosiynol, gan gyfrannu at eu hiechyd a’u hapusrwydd.
  • Mae chwarae’n cynorthwyo gyda chymdeithasoli: pan maen nhw’n chwarae, mae plant yn rhyngweithio gydag eraill, datblygu cyfeillgarwch ac ymlyniad gyda’u cyfoedion, delio gyda gwrthdaro a dysgu parch a goddefgarwch.
  • Mae chwarae’n cynyddu gwytnwch: mae chwarae’n galluogi plant i ymdopi gyda straen a heriau trwy gydol eu bywydau trwy hybu eu gallu i reoli eu hemosiynau, hyder, creadigedd, sgiliau datrys problemau a dyfalbarhad.
  • Mae chwarae’n cefnogi plant i deimlo’n rhan o’u cymdogaethau a’u cymunedau ehangach: mae chwarae’n caniatáu i blant ddysgu am y byd o’u hamgylch, creu cysylltiadau a datblygu ymdeimlad o hunaniaeth ac o berthyn.
  • Mae chwarae’n cefnogi dysgu a datblygu: mae chwarae’n adeiladu strwythurau’r ymennydd a sgiliau fel creadigrwydd, datrys problemau a meddwl beirniadol.

 

Chwarae mewn ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd

Gellir cefnogi lles plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbyty neu leoliadau cymunedol, fel hosbisau i blant, trwy ddarparu cyfleoedd i chwarae. Dylai chwarae a strategaethau chwarae therapiwtig priodol gael eu gwreiddio yng nghynllun gofal y plentyn a’u cynnwys fel elfen hanfodol ac arferol o dderbyn plentyn i ysbyty.

Mae cael mynediad i chwarae’n hynod o bwysig pan mae plant yn wynebu ansicrwydd afiechyd difrifol, anhwylderau tymor hir ac arosiadau yn yr ysbyty.

Mae ymchwil gan y Starlight Children’s Foundation wedi canfod bod chwarae:

  • yn gallu helpu plant i gael profiad mwy positif yn yr ysbyty
  • yn hanfodol ar gyfer gwella lles plant, gan leihau’r pryder, ofn a straen all fod yn gysylltiedig gyda bod yn yr ysbyty
  • yn gallu lleihau poenau plant a achosir gan driniaeth yn yr ysbyty
  • yn gallu helpu plant mewn ysbytai i gynyddu gwytnwch sy’n eu helpu i ymdopi ac ymwneud yn well â’r driniaeth
  • yn gallu helpu i roi ymdeimlad o reolaeth ac annibyniaeth yn ôl i’r plentyn gaiff eu colli’n aml trwy salwch a bod mewn ysbyty
  • yn gallu cryfhau lles a pherthnasau’r teulu.

 

Un rôl hanfodol yn y timau sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal iechyd yw’r Arbenigwr Chwarae Iechyd (HPS). Mae’r rhain yn ymarferwyr cymwysedig, cofrestredig sydd wedi ymroi i sicrhau bod plant yn cael mynediad priodol i amser, lle, ac adnoddau i chwarae’n ystod eu hamser mewn gofal iechyd. Mae Arbenigwyr Chwarae Iechyd hefyd yn sicrhau bod tynnu sylw a pharatoadau chwareus yn rhan annatod o driniaeth plant.


 

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors