Chwarae
Chwarae a gwaith ieuenctid
Mae gan bobl sy’n gweithio gyda phlant hŷn a phlant yn eu harddegau rôl bwysig wrth gefnogi eu cyfleoedd i chwarae a chwrdd â ffrindiau.
Yr hyn y mae CCUHP yn ei ddweud am arddegwyr a chwarae
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn diffinio ‘plant’ fel pawb dan 18 oed. Mae Erthygl 31 o’r confensiwn yn datgan bod gan bob plentyn hawl i chwarae. Mae’n pwysleisio hefyd bwysigrwydd darparu gweithgareddau sy’n briodol ar gyfer oedran y plentyn.
Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn archwilio hyn ymhellach, gan bwysleisio bod chwarae’n parhau i fod yn bwysig ym mywydau plant wrth iddynt dyfu’n hŷn. Ond mae’r hyn y maent ei angen yn newid, ac yn canolbwyntio ar fannau sy’n rhoi cyfleoedd iddynt gymdeithasu, bod gyda arddegwyr eraill neu i fod ar eu pen eu hunain.
Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn ein hatgoffa hefyd bod plant hŷn ac arddegwyr yn debyg o gael eu denu at gyfleoedd sy’n cynnwys her a mentro. Mae’r profiadau hyn yn ddatblygiadol angenrheidiol ac yn cyfrannu at ymdeimlad arddegwyr o hunaniaeth ac o berthyn.
Gwaith ieuenctid
Yng Nghymru, mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuecntid (2012) yn dynodi mai pwrpas allweddol gwaith ieuecntid yw:
‘Galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol gan weithio gyda hwy i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol i’w galluogi i ddatblygu eu llais eu dylanwad a’u safle mewn cymdeithas i gyrraedd eu llawn botensial.’
Yn y bôn, mae gwaith ieuenctid yn darparu amgylcheddau diogel ac yn cefnogi datblygiad a lles arddegwyr. Mae gweithwyr ieuenctid yn cefnogi arddegwyr fel y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau fel aelodau o grwpiau a chymunedau. Cefnogir arddegwyr i brofi ffiniau a datblygu’r hyder i wneud dewisiadau deallus.
Fel y mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn nodi, mae chwarae plant yn unrhyw ymddygiad, gweithgaredd neu broses gaiff ei sbarduno, ei rheoli a’i strwythuro gan y plant eu hunain. Gall ddigwydd pryd bynnag ac ym mhle bynnag y mae cyfle. Mae gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid, trwy ddeall a chefnogi chwarae, yn darparu ffordd naturiol i blant:
- ddatblygu
- dysgu am eu hunain
- cysylltu gyda’r byd o’u hamgylch.
Adnoddau
Adnoddau cefnogi arddegwyr
Mae adran cefnogi arddegwyr gwefan Plentyndod Chwareus yn cynnwys gwybodaeth am:
- hongian o gwmpas
- mannau i hongian o gwmpas
- treulio amser gyda dy blentyn yn ei arddegau
- gwibdeithiau a gwyliau
- pethau dychrynllyd y bydd arddegwyr yn eu gwneud
- cadw cefn arddegwyr
- helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostynt eu hunain.