Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Gofal plant

Archwiliwch

Mae llawer o blant yn treulio amser mewn gofal plant megis mewn crèche, meithrinfa neu glwb ar ôl ysgol. Bydd rhieni’n dewis lleoliadau gofal plant am amrywiol resymau er enghraifft er mwyn eu galluogi i weithio neu dderbyn hyfforddiant neu oherwydd ei fod yn teimlo’n bwysig ar gyfer datblygiad eu plentyn.

Mae rhieni eisiau lleoliadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n caniatáu i’w plant chwarae am gyfnodau estynedig o amser mewn amgylcheddau chwarae cyfoethog.

Mae ymarferwyr gofal plant yn gweithio mewn lleoliadau neu fannau ble y gellir blaenoriaethu chwarae. Mae sicrhau bod yr amgylchedd a’r awyrgylch yn ateb anghenion a hawl plant i chwarae’n allweddol. Y ffyrdd gorau i gefnogi hawl plant i chwarae yw i:

  • fwynhau chwarae am yr hyn yw e
  • chwarae’n llawn brwdfrydedd pan gawn wahoddiad i chwarae
  • bod yn eiriolwyr brwd dros chwarae.

 

Mae darparwyr ac ymarferwyr gofal chwarae yng Nghymru mewn sefyllfa dda i eiriol dros chwarae ar ran y cymunedau ble maent yn gweithio. Yn aml iawn:

  • mae ganddynt wreiddiau dwfn yn y gymuned
  • mae rhieni yn eu parchu ac yn ymddiried yn fawr ynddynt
  • mae ganddynt gysylltiadau cryfion gydag ysgolion a lleoliadau eraill ble mae pobl yn gweithio gyda phlant.

 

Mae ymarferwyr gofal plant sydd wedi derbyn hyfforddiant gwaith chwarae yn dweud bod gwybod am agwedd gwaith chwarae’n cael effaith sylweddol ar y cyfleoedd chwarae y maent yn ei gynnig.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors