Digwyddiad Chwarae Cymru
Digonolrwydd cyfleoedd chwarae – deall eich rôl o ran y ddyletswydd statudol
Dyddiad
15-05-2024
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (aelod)
£0
Pris (ddim yn aelod)
£0
Trefnydd
Chwarae Cymru gyda swyddogion digonolrwydd chwarae awdurdod lleol
Lleoliad
Stadiwm rygbi Parc Eirias, Bae Colwyn
Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu er mwyn cefnogi chwarae plant. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu a, chyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae.
Mae cymaint o benderfyniadau polisi yn effeithio ar allu plant i chwarae. Mae digonolrwydd ac ansawdd chwarae yn effeithio hefyd ar ddeilliannau ar gyfer meysydd polisi eraill.
Bydd y gynhadledd hon yn:
- cynnig trosolwg o’r ddyletswydd statudol
- rhannu ymarfer sy’n ymwneud â digonolrwydd chwarae o ar draws y rhanbarth a gweddill Cymru
- Cyfrannu at ddealltwriaeth gyffredinol am ddigonolrwydd chwarae ar draws adrannau perthnasol yr awdurdod lleol
- rhoi cyfle i weithio a chynllunio â’ch gilydd o fewn eich awdurdod lleol a gyda eraill mewn rolau tebyg ar draws y rhanbarth.
Mae’r gynhadledd wedi ei hanelu at bobl sy’n gweithio ar lefel strategol mewn meysydd sydd â dylanwad ar chwarae, yn cynnwys:
- iechyd y cyhoedd
- addysg
- cynllunio
- priffyrdd / trafnidiaeth
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio yn: Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.