Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Chwarae mewn ysgolion

Archwiliwch

Mae plant yn treulio llawer o amser yn yr ysgol. Fel rhan o’u diwrnod ysgol, mae gan blant hawl i dderbyn amser a lle i chwarae.

 

Yn ystod y diwrnod ysgol, dylai plant dderbyn digon o amser a lle i ymlacio a chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau. Mae plant yn dweud bod amserau chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol.

Dywedodd 98% o’r plant a holwyd fel rhan o Arolwg Omnibws Plant Cymru (2022) eu bod yn edrych ymlaen at amser chwarae yn yr ysgol. Dywedodd 82% eu bod yn arbennig o hoff o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau.

Mae astudiaethau wedi dangos bod prosiectau amserau chwarae mewn ysgolion sy’n anelu ddarparu cyfleoedd chwarae cyfoethocach ar gyfer plant yn arwain at ystod eang o welliannau i:

  • berfformiad academaidd plant
  • eu hagwedd
  • lefel talu sylw
  • ymddygiad
  • sgiliau cymdeithasol
  • perthnasau rhwng gwahanol grwpiau o blant
  • mwynhad o ac ymgynefino â bywyd ysgol.

 

Gall prosiectau amser chwarae gynnwys darparu gweithgareddau chwarae traddodiadol, offer meysydd chwarae, deunyddiau chwarae rhannau rhydd a staff sy’n deall chwarae. Mae mynediad i brosiectau amserau chwarae yn arwain at ddisgyblion hapusach, nifer sylweddol is o ddigwyddiadau a damweiniau, a disgyblion yn dychwelyd i’r dosbarth yn barod i ddysgu.

Yn Sylw Cyffredinol rhif 17, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn argymell rhoi amser, lle a rhyddid i blant chwarae fel rhan o’r diwrnod ysgol. Mae’n nodi bod gan ysgolion rôl sylweddol wrth hyrwyddo’r hawl i chwarae yn y meysydd canlynol o fywyd ysgol:

  • gofynion y cwricwlwm ar athrawon yn ogystal â’r plant
  • addysgeg addysgol (fel rhan bwysig o gefnogi dysgu effeithlon)
  • amgylchedd ffisegol lleoliadau
  • strwythur y dydd.

 

Cynnwys amser i chwarae trwy gydol y diwrnod ysgol

Mae’n bwysig i blant gael cyfleoedd i fod yn chwareus yn yr ysgol y tu allan i amserau chwarae. Dylai gweithgareddau chwareus fod yn ganolog i ddysgu ar gyfer plant hŷn yn ogystal â’r rheini yn y blynyddoedd cynnar.  

Mae’r CU yn dweud ei bod hi’n bwysig i amgylcheddau dysgu fod yn fywiog a chyfranogol. Gall creu amgylchedd dysgu ac addysgu eang a chytbwys sydd hefyd yn gofalu am iechyd a lles plant ddarparu profiad dysgu gwell a mwy cadarnhaol. Canfu ymchwil gan Brifysgol Manceinion, pan fo ffiniau rhwng gwaith ysgol a chwarae’n fwyaneglur’ bod plant yn teimlo ymdeimlad cryfach o reolaeth dros eu profiad dysgu.

Mae seicolegwyr datblygiadol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod bod chwarae llawn hiwmor yn helpu plant i gysylltu gydag eraill fel ffrindiau a brodyr a chwiorydd a ffurfio perthnasau cadarnhaol, cynnes.

Rydym wedi gweithio gyda’r seicolegwyr hyn i ddatblygu adnoddau ar gyfer ysgolion. Mae’r adnoddau Gemau Giglo yn anelu i roi mwy o gyfleoedd i athrawon a phlant rannu hiwmor a chwarae yn yr ystafell ddosbarth. Maent ar gael am ddim i blant ac athrawon ysgolion cynradd yn ne Cymru.

 

Sicrhau bod ysgolion yn darparu amser ichwarae

Yn Arolwg Omnibws Plant Cymru (2022) dywedodd 61% o’r plant eu bod wedi methu amser chwarae. Y rhesymau mwyaf cyffredin am hyn yw i ddal i fyny gyda gwaith neu oherwydd bod athro neu athrawes yn teimlo eu bod wedi camymddwyn.  

Mae Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol Llywodraeth Cymru yn gosod pwyslais mawr ar bwysigrwydd chwarae. Mae’r fframwaith, yn benodol, yn nodi bod gwrthod caniatáu amser chwarae fel cosb yn gwarafun hawl plentyn i chwarae ac yn gallu peri stigma a gofid hefyd.  

Mae papur sefyllfa gan Adran Seicoleg Addysgol a Phlant, Cymdeithas Seicolegol Prydain(DECP) yn tanlinellu bod chwarae’n hanfodol ar gyfer lles a datblygiad plant. Mae’nargymell na ddylid tynnu amser chwarae yn yr ysgol yn ôl fel cosb.

Fe weithiodd awduron y papur sefyllfa gyda Chwarae Cymru i ddatblygu syniadau Gwarchod amser chwarae, y cewch hyd iddo yn Ysgol chwarae-gyfeillgar: Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan.

 

Darparu lle i chwarae mewn ysgolion

Mae adroddiad Estyn Iach a hapus effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion yn pwysleisio’r berthynas rhwng cefnogi iechyd a lles a darparu lle i chwarae mewn ysgolion. Mae ysgolion sy’n mabwysiadu dull ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a lles hefyd yn darparu amgylchedd, y cyfleusterau a’r gofod i blant chwarae, cymdeithasu ac ymlacio yn ystod amser chwarae.

Mae gan y mwyafrif o ysgolion ardal â tharmac arni, fydd yn cefnogi gemau a chwaraeon rhedeg, bywiog. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i ddarparu gofod tawel ar gyfer disgyblion sydd am dreulio rhywfaint o amser ar eu pen eu hunain.

Bydd gofod naturiol, gwyrdd wedi ei dirlunio’n dda yn darparu nodweddion cadarnhaol ar gyfer chwarae, fel mannau i guddio ac archwilio. Fodd bynnag, os nad yw’r mannau hyn yn hygyrch i bob plentyn neu os ydynt yn cael eu cyfyngu mewn rhyw fodd, fe allant achosrhwystredigaeth. Dylai ysgolion adolygu’r gofod sydd ganddynt ar gael a bod â chynllun tymor hir ar gyfer gwarchod a chyfoethogi eu mannau chwarae.

Dylai ysgolion ddarparu amgylchedd chware cyfoethog ble gall plant o bob oed deimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ac ar eu telerau eu hunain.

Mae’n bwysig darparu digon o ddeunyddiau chwarae rhannau rhydd i blant chwarae gydanhw yn ystod amser chwarae. Gall peidio bod â digon o adnoddau achosi gwrthdaro a  thensiwn.

Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae ynddyn nhw, gan roi’r adnoddau y maent eu hangen iddyn nhw ehangu eu chwarae. Dyw rhannau rhydd ddim yn gyfarwyddol. Yn hytrach, maent yn cynnig posibiliadau di-ben-draw, gan roi mwy o gyfleoedd i blant newid a thrin yr adnoddau a mwy o ddewis ynghylch sut y byddant yn mynd ati i wneud hynny.

Mae ein pecyn cymorth, Adnoddau ar gyfer chwarae darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant, wedi ei ddatblygu i gefnogi oedolion sy’n gweithio yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd.

 

Rhoi caniatâd i blant chwarae

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn trafod pwysigrwydd oedolion cefnogol fydd yn sicrhau bod plant yn gallu mwynhau eu hawl i chwarae.

Er mwyn creu diwylliant ble caniateir chwarae, mae angen i staff ysgolion gefnogi chwarae’n weithredol. Ni ddylid diystyru chwarae fel rhywbeth gwamal ac yn wastraff amser, yn hytrach dylid ei gydnabod a’i gefnogi. Mae hyn yn golygu na ddylid defnyddio chwarae dim ond fel cyfrwng ar gyfer dysgu, neu ar gyfer cyflawni deilliannau addysgol neu iechyd.

Dylai staff sy’n goruchwylio amser chwarae fod â dealltwriaeth dda o chwarae. Mae angen iddyn nhw gefnogi ac annog y disgyblion yn weithredol i wneud eu dewisiadau eu hunain gyda’r ymyriad lleiaf posibl gan oedolion. Gallant helpu i sicrhau bod amser chwarae ddim yn cael ei or-drefnu na’i or-reoleiddio.

Un cam cyntaf pwysig tuag at greu diwylliant ble caiff chwarae ei ganiatáu yw datblygu polisi chwarae ysgol. Dylai hyn gefnogi chwarae a rhestru’r camau gweithredu y mae’r ysgol yn eu cymryd i warchod hawl plant i chwarae. Cewch hyd i esiampl o bolisi chwarae ysgolyn ein canllaw Ysgol chwarae-gyfeillgar.

Mae pwysigrwydd mynediad cymunedol i ysgolion, yn enwedig mewn cymunedau sydd heb adnoddau digonol, yn cael ei gydnabod yn Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyferllesiant emosiynol a meddyliol Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei gydnabod hefyd mewn canllawiau sy’n cefnogi datblygiad Ysgolion Bro yng Nghymru.

Mae ein pecyn cymorth, Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysguwedi’i ddylunio i helpu penaethiaid, llywodraethwyr a sefydliadau lleol i weithio gyda’i gilydd i agor tiroedd ysgolion ar gyfer plant lleol y tu allan i’r diwrnod ysgol.

 

Adnoddau defnyddiol eraill

 

Gweithdy hawl i chwarae

Mae’r gweithdy hwn wedi’i ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w hwyluso mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraillMae’n anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae a galluogi plant ac arddegwyr i ymgyrchu dros gyfleoedd chwarae gwell.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors