Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Digwyddiad Chwarae Cymru

Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024

Dyddiad

03-04/07/2024

Pris (aelod)

£55

Pris (ddim yn aelod)

£110

Trefnydd

Chwarae Cymru

Lleoliad

Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys

Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol. 

Mae’r digwyddiad hwn nawr yn llawn – os hoffech chi gael eich hychwanegu i’r rhestr aros, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. 

Anelir y digwyddiad at weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae, rheolwyr gwaith chwarae, ymarferwyr ysgolion fforest a gweithwyr gofal plant a phawb sydd am gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am waith chwarae, yn enwedig y tu allan.

Disgwylir i’r cyfranogwyr wersylla a bydd angen iddynt ddod â’u hoffer gwersylla eu hunain. Darperir diodydd poeth, ciniawau, brecwast a swper.

Ffi cyfranogwyr – eleni rydym wedi sicrhau cyllid i ddarparu pris gostyngol arbennig ar gyfer cyfranogwyr sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Mae croeso hefyd i weithwyr chwarae o’r tu allan i Gymru.

  • Ffi cyfranogwyr o Gymru – £55
  • Ffi llawn i gyfranogwyr eraill – £110

I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliad a’r ardal leol, ewch at Shakespeare Link.

Rydym am wneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn gynhwysol ac yn hygyrch i gyfranogwyr sydd am fynychu. Sylwer: mae’r digwyddiad a’r lleoliad yn gwbl awyr agored. Os oes gennych ofynion mynediad penodol yr hoffech eu trafod, cofiwch gysylltu gyda ni.

Darperir gofod gwersylla fel rhan o’r ffi cyfranogwyr, ac mae hyn yn cynnwys brecwast bwffe. Mae hyn yn helpu i gadw’r costau cyffredinol yn isel fel bod mwy o bobl yn gallu mynychu ac rydym yn gobeithio y bydd yn caniatáu i dimau, yn ogystal ag unigolion, fynychu. Mae’r profiad awyr agored yn rhan o’r hyn sy’n gwneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad datblygiad proffesiynol unigryw ac felly byddwn yn annog cyfranogwyr i wersylla er mwyn ennill cymaint â phosibl o’r digwyddiad hwn.

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors