Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith chwarae

Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae

Pwnc

Gwaith chwarae

Dyddiad cyhoeddi

18.04.2023

Darllen yr adnodd

Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae

Awdur: Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae
Dyddiad: 2005

Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n diffinio’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae ac yn cyflwyno dealltwriaeth gytûn o’r hyn y mae gweithwyr chwarae’n ei wneud. Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn berthnasol i bob plentyn.

Mae’r Egwyddorion yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hyn o beth dylid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r Egwyddorion wedi eu seilio ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei gyfoethogi o dderbyn mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors