Chwarae
Gweithio gyda phlant
Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod plant yn cael amser, lle a rhyddid i chwarae. Mae gweithlu cyfan sy’n helpu i wneud i hyn ddigwydd.
Mae plant yn chwarae mewn llawer o wahanol leoedd, ble bynnag a phryd bynnag mae’r amodau’n gywir. Gall hyn fod dan do a’r tu allan, ac mae’n gynnwys mannau fel ysgolion, lleoliadau gofal plant ac ysbytai.
Mae’r gweithlu chwarae’r un mor amrywiol ac nid yw’r mwyafrif o bobl sy’n gweithio ynddo angen cymwysterau ffurfiol mewn chwarae.
Mae pobl y mae eu rôl yn effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar chwarae plant hefyd yn rhan o’rgweithlu chwarae. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gweithio mewn:
- addysg
- y blynyddoedd cynnar a gofal plant
- iechyd
- gwasanaethau ieuenctid.
Mae hefyd yn cynnwys pobl mewn meysydd eraill yn y gwasanaethau statudol, fel:
- cynllunio
- tai
- mannau agored
- parciau
- gwasanaethau diwylliannol
- gwasanaethau amgylcheddol
- teithio
- priffyrdd
- datblygu cymunedol
- hamdden
- chwaraeon
- yr heddlu
- y gwasanaeth tân
- cynghorau tref a chymuned.
Yn ogystal, mae gan amryw o weithwyr proffesiynol yn y trydydd sector rôl wrth gefnogi chwarae plant.
Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 31 yn amlinellu rôl bwysig oedolion wrthroi’r gefnogaeth y mae plant ei angen i gyflawni eu hawl i chwarae. Mae’n nodi:
- Gall oedolion gefnogi datblygiad plant trwy ymgysylltu gyda nhw trwy chwarae.
- Mae oedolion sy’n cyfranogi mewn chwarae plant yn ennill dirnadaeth a dealltwriaeth unigryw ar bersbectif plentyn.
- Mae plant yn elwa o weithgareddau sy’n cynnwys oedolion. Fodd bynnag, mae’r buddiannau hyn yn llai os yw oedolion yn rheoli’r chwarae, gan danseilio ymdrechion plentyn i drefnu ac arwain eu gweithgareddau chwarae eu hunain.
Fel rhan o’u diwrnod ysgol, mae gan blant hawl i dderbyn amser a lle i chwarae
Mae chwarae’n ganolog i bob agwedd o iechyd a lles plant – yn gorfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol
Gall mannau diwylliannol gefnogi hawl plant i chwarae, yn ogystal â gweithgareddau hamdden a’r celfyddydau.
Gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer eu rhannu gyda’r rhieni, gofalwyr a’r teuluoedd rydych yn gweithio gyda nhw
People who work with older children and teenagers have an important role in supporting their opportunities to play and meet up with friends
Mae darparwyr ac ymarferwyr gofal chwarae mewn sefyllfa dda i eiriol dros chwarae ar ran y cymunedau ble maent yn gweithio