Cym | Eng

Newyddion

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Date

24.06.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae gan bobl sy’n gweithio gyda phlant hŷn ac arddegwyr rôl bwysig wrth gefnogi eu cyfleoedd i chwarae a chwrdd â ffrindiau.

Yr Wythnos Gwaith Ieuenctid hon, rydym yn dathlu’r cysylltiadau rhwng gwaith chwarae a gwaith ieuenctid, yn ogsytal â phwysleisio’r effaith gadarhaol y gall gweithwyr ieuenctid ei gael ar gyfleoedd i chwarae.

Drwy ddeall a chefnogi chwarae, mae gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid yn darparu ffordd naturiol i blant ddatblygu, dysgu am eu hunain a chysylltu gyda’r byd o’u hamgylch.

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, a ddethlir rhwng 23 a 30 Mehefin 2025, yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru. Nod yr wythnos yw hyrwyddo dealltwriaeth a chefnogaeth ehangach i waith ieuenctid.

Mae ein taflenni gwybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau eraill ar gael i gefnogi unryw un sy’n gweithio gyda phlant ac arddegwyr i ddeall eu rôl i gefnogi chwarae.

Darganfod mwy am chwarae a gwaith ieuenctid

 

Adnoddau

Beth sydd ei angen ar rywun i fod yn weithiwr chwarae?

Mae’r fideo byr hwn yn arddangos y rhinweddau y gall gweithwyr ieuenctid eu mabwysiadu i gefnogi ac annog chwarae plant.

 

Mae plant hŷn yn chwarae hefyd

Taflen wybodaeth am chwarae plant hŷn, yn benodol rheini sy’n 11 i 16 mlwydd oed. Mae’n archwilio ymddygiadau chwarae plant hŷn a’u buddiannau, yn ogystal â ble bydd plant hŷn yn chwarae a pham.

 

Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru

Canllaw byr ar gyfer gweithwyr chwarae ac eraill sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru. Mae’n rhoi trosolwg o ba gymwysterau sydd ar gael a beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithwyr chwarae a rheolwyr.

 

… Ac ar gyfer rhieni a gofalwyr – neu i rannu gyda’r teuluoedd yr ydych yn gweithio â hwy – gweler yr adran Cefnogi Arddegwyr ar wefan Plentyndod Chwaraeus am awgrymiadau a syniadau.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors