Cym | Eng

Newyddion

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid

Date

25.06.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae gan bobl sy’n gweithio gyda phlant hŷn ac arddegwyr rôl bwysig wrth gefnogi eu cyfleoedd i chwarae a chwrdd â ffrindiau. I nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid, rydym yn dathlu’r cysylltiadau rhwng gwaith chwarae a gwaith ieuenctid, yn ogsytal â phwysleisio’r effaith gadarhaol y gall gweithwyr ieuenctid ei gael ar gyfleoedd i chwarae.

Drwy ddeall a chefnogi chwarae, mae gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid yn darparu ffordd naturiol i blant ddatblygu, dysgu am eu hunain a chysylltu gyda’r byd o’u hamgylch.

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, a ddethlir rhwng 23 a 30 Mehefin 2024, yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru. Nod yr wythnos yw hyrwyddo dealltwriaeth a chefnogaeth ehangach i waith ieuenctid.

Dywedodd Keith Towler, Cadeirydd Chwarae Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim blaenorol:

‘Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i ddathlu a gwerthfawrogi popeth sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid. Mae gan weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr gwaith ieuenctid sy’n gweithio gyda phlant hŷn ac arddegwyr rôl bwysig wrth gefnogi a galluogi eu chwarae.

Mae’r sector chwarae yn cyfarch ein cydweithwyr gwaith ieuenctid. Weithiau mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau sector yn mynd yn aneglur ond mae hynny’n oce, yn enwedig gan y gall y ddau gefnogi ei gilydd i ddarparu cyfleoedd chwarae, dysgu a datblygu i’n holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.’

Mae ein taflenni gwybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau eraill ar gael i gefnogi unryw un sy’n gweithio gyda phlant ac arddegwyr i ddeall eu rôl i gefnogi chwarae.

Darganfod mwy am chwarae a gwaith ieuenctid

 

Adnoddau

Mae plant hŷn yn chwarae hefyd

Taflen wybodaeth am chwarae plant hŷn, yn benodol rheini sy’n 11 i 16 mlwydd oed. Mae’n archwilio ymddygiadau chwarae plant hŷn a’u buddiannau, yn ogystal â ble bydd plant hŷn yn chwarae a pham.

 

Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru

Canllaw byr ar gyfer gweithwyr chwarae ac eraill sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru. Mae’n rhoi trosolwg o ba gymwysterau sydd ar gael a beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithwyr chwarae a rheolwyr.

 

… Ac ar gyfer rhieni a gofalwyr – neu i rannu gyda’r teuluoedd yr ydych yn gweithio â hwy – gweler yr adran Cefnogi Arddegwyr ar wefan Plentyndod Chwaraeus am awgrymiadau a syniadau.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors