Croeso i Chwarae Cymru
Eiriol dros chwarae plant
Yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.
![](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2023/07/best-palmerston-1.png)
Amdanom ni
Rydym yn eiriol dros angen a hawl pob plentyn i chwarae
Ein gweledigaeth yw dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.
Rydym yn ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
Chwarae
![](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2023/04/play.jpg)
Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnwn beth sydd o bwys iddyn nhw, bydd plant yn cyfeirio’n gyson at chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Gwaith Chwarae
![](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2023/02/PO_080622_MOUNT-STUART_43-scaled.jpeg)
Mae gwaith chwarae’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws pan fydd oedolion a phlant yn treulio amser gyda’i gilydd. Mae gwaith chwarae’n alwedigaeth a gydnabyddir sydd â chyfres o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd.
Polisi a deddfwriaeth chwarae
![](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2023/02/content_img_3.jpg)
Mae chwarae’n rhan bwysig o fywydau plant ac arddegwyr ac mae’n digwydd ble bynnag maen nhw’n treulio amser. Fel eiriolwr chwarae, mae Chwarae Cymru yn cyfrannu at ystod o ddadleuon a phenderfyniadau polisi – gan gynnwys ar hawliau plant, iechyd a lles a datblygu’r gweithlu.
Digwyddiadau i ddod
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Chwarae Cymru - a rhai a drefnir gan fudiadau eraill
Gweld popethDigwyddiad Chwarae Cymru
Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024![Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2024/03/image002_web.jpg)
Lleoliad
Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys
Dyddiad ac amser
03-04/07/2024 /
Pris
£55
Digwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.
Digwyddiad Chwarae Cymru
Cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru 2024![Cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru 2024](https://chwarae.cymru/wp-content/uploads/sites/3/2024/05/Plant_crop-scaled.jpg)
Lleoliad
Gerddi Sophia, Caerdydd
Dyddiad ac amser
21/11/2024 /
Cadwch y dyddiad ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, a gynhelir ym mis Tachwedd 2024.