Cym | Eng

Gwaith chwarae

Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae

Pwnc

Gwaith chwarae

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Darllen yr adnodd

Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae

Awdur: Bob Hughes
Dyddiad: 2001

Mae’r llyfr hwn yn anelu i alluogi gweithwyr chwarae ac unrhyw oedolion eraill sydd â diddordeb mewn chwarae plant, i ddadansoddi amgylcheddau chwarae. Mae’n cynnig fframwaith y gellir ei defnyddio i asesu, trwy arsylwi a myfyrio, ansawdd yr hyn sy’n cael ei ddarparu a sut y caiff ei brofi.

Mae’r llyfr yn caniatáu i’r darllenydd ystyried:

  • yr hyn y mae plant yn ei wneud
  • y rolau datblygiadol a therapiwtig sy’n rhan o chwarae
  • rolau a swyddogaethau’r gweithiwr chwarae (neu oedolion eraill)
  • y ffyrdd mwyaf priodol o ymyrryd yn y broses chwarae
  • iaith a chysyniadau gwaith chwarae

Bwriedir i Yr Hawl Cyntaf … gyflenwi gweithdrefnau sicrhau ansawdd eraill.

Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o gopïau caled sydd ar gael i’w prynu am £15 (yn cynnwys pris postio yn y DU). Os hoffech gopi, cysylltwch gyda ni.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors