Gwaith chwarae
Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae
Pwnc
Gwaith chwarae
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Bob Hughes
Dyddiad: 2001
Mae’r llyfr hwn yn anelu i alluogi gweithwyr chwarae ac unrhyw oedolion eraill sydd â diddordeb mewn chwarae plant, i ddadansoddi amgylcheddau chwarae. Mae’n cynnig fframwaith y gellir ei defnyddio i asesu, trwy arsylwi a myfyrio, ansawdd yr hyn sy’n cael ei ddarparu a sut y caiff ei brofi.
Mae’r llyfr yn caniatáu i’r darllenydd ystyried:
- yr hyn y mae plant yn ei wneud
- y rolau datblygiadol a therapiwtig sy’n rhan o chwarae
- rolau a swyddogaethau’r gweithiwr chwarae (neu oedolion eraill)
- y ffyrdd mwyaf priodol o ymyrryd yn y broses chwarae
- iaith a chysyniadau gwaith chwarae
Bwriedir i Yr Hawl Cyntaf … gyflenwi gweithdrefnau sicrhau ansawdd eraill.
Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o gopïau caled sydd ar gael i’w prynu am £15 (yn cynnwys pris postio yn y DU). Os hoffech gopi, cysylltwch gyda ni.