Cym | Eng

Cynorthwyydd Gweinyddol a Digwyddiadau

Date posted

19.08.2024

Ymunwch â'n tim ni

Lleoliad: Swyddfa yng nghanol Caerdydd

Oriau: 28 awr yr wythnos dros bum diwrnod rhwng yr oriau –8:00am a 5:00pm (oriau gwaith craidd o 10:00am tan 3:00pm)

Cyflog: £24,702 y flwyddyn pro rata, cyflog gwirioneddol o £18,693 (graddfeydd NJC 8 i 11)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Medi 2024

Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn swyddfa Chwarae Cymru yng Nghaerdydd ar 18 Medi 2024.

Rydym yn recriwtio Cynorthwyydd Gweinyddol a Digwyddiadau rhan amser i gynnig cymorth swyddfa cyffredinol a chwblhau amrywiol dasgau gweinyddol.

Bydd y deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo gydag agweddau gweinyddol a thechnegol ein rhaglen hyfforddiant, sy’n cynnwys seminarau ar-lein, yn ogystal â digwyddiadau cyfunol ac wyneb yn wyneb achlysurol. Ar gyfer yr elfen hon o’r swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweinyddu archebion, trafod gyda siaradwyr a sicrhau rhediad llyfn digwyddiadau.

Mae profiad blaenorol o weithio mewn swyddfa yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae hefyd yn hanfodol bod gennych sgiliau trefnu ac amldasgio rhagorol, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn ogystal â’r ddawn i gynllunio a blaenoriaethu, gan weithio ar eich menter eich hun.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors