Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Polisi chwarae cyfredol yng Nghymru

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru’n gosod gwerth mawr ar chwarae ac ar bwysigrwydd plant yn ein cymdeithas.

Fyth ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i arwain y byd yn ei gefnogaeth o hawl plant i chwarae. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw creu gwlad chwarae-gyfeillgar.

 

Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru

Yn 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bolisi Chwarae, y polisi chwarae cenedlaethol cyntaf yn y byd. Mae’r polisi’n seiliedig ar yr egwyddor bod gan bob plentyn hawl i chwarae. 

Mae’n adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau: 

  • bod plant a’u hanghenion yn ganolog i lunio polisïau 
  • ein bod yn darparu er mwyn ateb anghenion plant.

Y rhesymeg dros bolisi chwarae cenedlaethol 

Ysgrifennodd Chwarae Cymru resymeg ar gyfer chwarae plant a darpariaeth chwarae arweiniodd at ddrafftio a mabwysiadu’r Polisi Chwarae. Mae’r Rhesymeg dros Bolisi Chwarae Cenedlaethol i Gymru yn cynnwys diffiniad o chwarae plant, yn ogystal â gwybodaeth am:

  • bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant 
  • buddiannau chwarae ar gyfer cymunedau a chymdeithas
  • buddiannau cael polisi cenedlaethol ar gyfer chwarae.


Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae

Mae pwysigrwydd chwarae’n cael ei gydnabod a’i warchod yn rhyngwladol, yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 y Confensiwn yn datgan yn ddiamwys bod gan blant hawl i chwarae ac i ymuno mewn gweithgareddau hamdden eraill. Mae’n datgan hefyd y dylai gwledydd sydd wedi arwyddo CCUHP warchod yr hawliau hyn. 

Yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru CCUHP yn ffurfiol fel sail ar gyfer llunio polisïau sy’n berthnasol i blant. Fe sefydlodd grŵp gweithredu amlddisgyblaethol Cyflawni’r Polisi Chwarae i ddatblygu argymhellion ar gyfer sut y dylai chwarae ddatblygu yng Nghymru.  

Yn 2006, lansiodd Llywodraeth Cymru Chwarae yng Nghymru, ei Gynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae.

Mae’r cynllun hwn yn egluro sut y byddai’r egwyddorion a nodir yn y Polisi Chwarae yn cael eu cyflawni. Mae’n tynnu ynghyd gefnogaeth gyfredol ar gyfer chwarae (prosiectau a darpariaeth) ac mae’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o gamau gweithredu allweddol ac amserlen ar gyfer eu cyflawni. 

 

Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 

Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddf am gyfleoedd i blant chwarae. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod ei fod angen cyfraniad pobl eraill i gyflawni ei nod o Gymru sy’n gyfeillgar at chwarae sy’n darparu cyfleoedd i blant chwarae. Roedd yn deall y byddai angen hefyd i awdurdodau lleol, eu partneriaid a rhanddeiliaid eraill i weithio tuag at hyn. 

O ganlyniad, pasiodd y llywodraeth ddeddf yn gwarchod hawl plant i chwarae, gan roi cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol (a elwir yn ddyletswydd) i asesu yn ogystal â sicrhau bod eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae.

Cafodd y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sydd wedi ei chynnwys yn adran Cyfleoedd Chwarae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ei chyflwyno mewn dwy ran. Cychwynnwyd y rhan cyntaf, sy’n gofyn i awdurdodau lleol asesu os ydynt yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardaloedd, ym mis Tachwedd 2012. Mae’r ail ran, a gychwynnwyd ym mis Gorffennaf 2014, yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardal, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol.

 

Yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae 

Ym mis Tachwedd 2019, penderfynodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Roedd gan yr adolygiad, a gwblhawyd yn 2022, ddau nod: 

  • i asesu gwaith Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â pholisi chwarae 
  • i helpu Llywodraeth Cymru i lunio sut y mae’n datblygu ac yn symud yr agenda chwarae yn ei blaen. 

Sefydlwyd grŵp llywio traws-broffesiynol o arbenigwyr chwarae a gwaith chwarae a swyddogion polisi ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi’r adolygiad. Datblygodd y grŵp llywio hwn y rhestr derfynol o argymhellion allweddol a cherrig milltir a amlinellir yn Adroddiad Grŵp Llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. 

Cydlynodd Chwarae Cymru ddrafftio adroddiad yr adolygiad a’r papur cefndir sy’n cefnogi’r adroddiad. 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors