Cym | Eng

Chwarae

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Archwiliwch

Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles.

 

Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth byd-eang o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn digwydd ar 11 Mehefin bob blwyddyn.

 

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae 2024

I nodi’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed ar 11 Mehefin 2024, fe wnaeth IPA Cymru Wales a Chwarae Cymru galw ar ysgolion ledled y wlad i warchod amser chwarae. Gyda’n gilydd, fe ofynnom i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae, er enghraifft drwy wneud amser cinio yn hirach neu drwy ddarparu amser chwarae ychwanegol.

Mae gan blant hawl i gael amser a lle i chwarae fel rhan o’r diwrnod ysgol. Dywed plant fod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol, ond nid yw ysgolion yng Nghymru yn blaenoriaethu amser chwarae bob amser. Gofynnodd Chwarae Cymru gwestiynau am amser chwarae fel rhan o Arolwg Omnibws Plant Cymru (2022). Dyma’r hyn a ganfuwyd:

  • dywedodd 98% o’r plant eu bod yn edrych ymlaen at amser chwarae yn yr ysgol.
  • dywedodd 82% eu bod yn arbennig o hoff o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau.
  • dywed 61% o blant eu bod wedi methu amser chwarae. Y rhesymau mwyaf cyffredin am hyn yw er mwyn dal i fyny â’u gwaith neu oherwydd bod athro yn teimlo eu bod wedi camymddwyn.

 

Cymryd rhan

I gefnogi ysgolion i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae 2024, fe ddatblygom ni rhestr o awgrymidau anhygoel. Mae’r rhestr yn llawn syniadau syml ac ymarferol ar gyfer nodi’r diwrnod.

I helpu mudiadau a lleoliadau ar draws Cymru nodi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae eleni, fe wnaethom gynhyrchu pecyn i gefnogwyr. Mae’r pecyn yn cynnwys trosolwg o’r ymgyrch, testun a delweddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thestun ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau.

 

Cefndir

Ar 25 Mawrth 2025, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y cynnig am Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol.

Pleidleisiodd aelodau’r International Play Association (IPA), gan gynnwys IPA Cymru Wales, yn unfrydol i eirioli i’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yng Nghynhadledd Byd yr IPA ym mis Mehefin 2023.

Ymunodd yr IPA â nifer o bartneriaid byd-eang gan gynnwys sefydliadau hawliau plant ac arbenigwyr chwarae i alw ar aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig i gefnogi’r penderfyniad. Bu’r Child Friendly Governance Project hefyd yn gweithio’n uniongyrchol i ymgysylltu a chefnogi lleisiau plant ledled y byd yn yr alwad.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors