Chwarae
Diwrnod Rhyngwladol Chwarae
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles.
Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth byd-eang o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn digwydd ar 11 Mehefin bob blwyddyn.
Diwrnod Rhynwladol Chwarae 2025
Mae’r thema eleni, Dewis Chwarae – Bob Dydd, yn ein hatgoffa’n groyw nad yw chwarae ond ar gyfer un diwrnod, mae’n rhywbeth i’w warchod a’i flaenoriaethu trwy gydol y flwyddyn, gan lunwyr polisïau, ysgolion, ysbytai, teuluoedd, a chymdogion/aelodau o’r gymuned.
Mae Llywydd yr International Play Association (IPA), Robyn Monro Miller AM, wedi rhannu neges fideo yn galw ar bawb i nid yn unig ddathlu chwarae, ond i fyfyrio ar y rhwystrau i chwarae yn ein cymunedau, ac i weithio gyda’n gilydd fel bod gan bob plentyn yr amser, y lle a’r cyfle i chwarae, bob dydd.
Cymryd rhan
O feysydd chwarae i balmentydd, gerddi i gemau, bydd chwarae’n digwydd ym mhobman – rhannwch eich dathliadau a’ch myfyrdodau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwaraeRhyngwladol a #DewisChwarae.
I gefnogi ysgolion i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae 2025, rydym ni wedi detblygu rhestr o awgrymidau anhygoel. Mae’r rhestr yn llawn syniadau syml ac ymarferol ar gyfer nodi’r diwrnod.
Cefndir
Ar 25 Mawrth 2024, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y cynnig am Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol.
Pleidleisiodd aelodau’r International Play Association (IPA), gan gynnwys IPA Cymru Wales, yn unfrydol i eirioli i’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yng Nghynhadledd Byd yr IPA ym mis Mehefin 2023.
Ymunodd yr IPA â nifer o bartneriaid byd-eang gan gynnwys sefydliadau hawliau plant ac arbenigwyr chwarae i alw ar aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig i gefnogi’r penderfyniad. Bu’r Child Friendly Governance Project hefyd yn gweithio’n uniongyrchol i ymgysylltu a chefnogi lleisiau plant ledled y byd yn yr alwad.
Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed ar 11 Mehefin 2024.