Archwiliwch
I ddathlu Wythnos Chwarae mewn Ysbytai (9 i 15 Hydref 2023), rydym yn rhannu detholiad o adnoddau ac erthyglau Chwarae Cymru yn archwilio chwarae mewn ysbytai.
Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at gefnogi gweithwyr chwarae a’r rhai sy’n darparu cyfleoedd i blant chwarae mewn ysbytai a lleoliadau iechyd:
- Taflen wybodaeth Chwarae mewn ysbytai
- Taflen wybodaeth Cyrchu pwerau therapiwtig chwarae: canllaw i weithwyr chwarae
- Chwarae fel moddion, Chwarae dros Gymru, Rhifyn 60, td12
- Agor tiroedd ar gyfer chwarae, Chwarae dros Gymru, Rhifyn 59, td10.
Mae Wythnos Chwarae mewn Ysbytai yn ddigwyddiad blynyddol sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o fanteision chwarae wrth drin plant plant sy’n gleifion mewn ysbytai yn y DU. Fe’i trefnir gan y National Association of Health Play Specialists (NAHPS) a Starlight Children’s Foundation.