Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Chwarae

Gwybodaeth i rieni

Archwiliwch

Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i ddarparu mwy o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymdogaethau.

 

Mae gan yr ymgyrch ei gwefan ei hun. Mae’n anelu i:

  • Helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymuned leol
  • Cefnogi grwpiau lleol a chynghorau tref a chymuned i ddarparu cymdogaethau chwarae-gyfeillgar yn eu hardaloedd
  • Darparu adnoddau i weithwyr proffesiynol eu defnyddio yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.

 

Mae gwefan Plentyndod Chwareus yn cynnig:

  • Syniadau ymarferol am roi amser, lle a phethau i blant chwarae gyda nhw
  • Awgrymiadau anhygoel, canllawiau ‘sut i’ a syniadau i helpu i gefnogi chwarae plant
  • Gwybodaeth ar sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae

Mae adran Magu plant yn chwareus y wefan yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, syniadau a chynghorion am chwarae ar gyfer pob plentyn.

Mae’r adran Cymunedau chwareus yn cynnwys llawer o wybodaeth a chynghorion i helpu  grwpiau i ystyried chwarae plant yn eu cymuned.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys blog gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Plentyndod Chwareus ynghyd ag erthyglau gwadd.  

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors