Chwarae
Gwybodaeth i rieni
Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i ddarparu mwy o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymdogaethau.
Mae gan yr ymgyrch ei gwefan ei hun. Mae’n anelu i:
- Helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae yn eu cartref ac yn eu cymuned leol
- Cefnogi grwpiau lleol a chynghorau tref a chymuned i ddarparu cymdogaethau chwarae-gyfeillgar yn eu hardaloedd
- Darparu adnoddau i weithwyr proffesiynol eu defnyddio yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.
Mae gwefan Plentyndod Chwareus yn cynnig:
- Syniadau ymarferol am roi amser, lle a phethau i blant chwarae gyda nhw
- Awgrymiadau anhygoel, canllawiau ‘sut i’ a syniadau i helpu i gefnogi chwarae plant
- Gwybodaeth ar sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae
Mae adran Magu plant yn chwareus y wefan yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, syniadau a chynghorion am chwarae ar gyfer pob plentyn.
Mae’r adran Cymunedau chwareus yn cynnwys llawer o wybodaeth a chynghorion i helpu grwpiau i ystyried chwarae plant yn eu cymuned.
Mae’r wefan hefyd yn cynnwys blog gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Plentyndod Chwareus ynghyd ag erthyglau gwadd.