Chwarae
Diwrnod Chwarae
Y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Mae Diwrnod Chwarae’n ddathliad blynyddol o hawl plant i chwarae.
Cynhelir y Diwrnod Chwarae nesaf ar Ddydd Mercher 6 Awst 2025
Sefydlwyd Diwrnod Chwarae yn 1987 ac fe’i cynhelir ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst.
Mae’n ymgyrch barhaus sy’n pwysleisio pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, sy’n canolbwyntio ar fater penodol bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae gan Diwrnod Chwarae thema benodol sy’n tynnu sylw at fater penodol neu agwedd o chwarae plant – er enghraifft:
- annog pawb i roi mwy o amser a rhyddid i blant chwarae
- adennill y strydoedd er mwyn i blant allu chwarae’n ddiogel y tu allan i’w cartrefi.
Am wybodaeth ar ymgyrchoedd y gorffennol, ewch i wefan Playday.
Yn Chwarae Cymru, mae Diwrnod Chwarae’n rhoi cyfle gwerthfawr inni bob blwyddyn i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant ar angen am ddarpariaeth chwarae o safon. Rydym yn defnyddio Diwrnod Chwarae i danlinellu’r ffaith bod chwarae’n bwysig a bod angen darpariaeth chwarae o safon bob diwrnod o’r flwyddyn ym mhob ardal o Gymru.
Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Play England, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland a Chwarae Cymru.
Thema Diwrnod Chwarae 2025
Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw:
Mannau i Chwarae
Mae’r thema eleni’n pwysleisio pwysigrwydd allweddol mannau hygyrch, cynhwysol ble caiff plant ac arddegwyr gyfleoedd i chwarae’n rhydd, gan dreulio amser a chysylltu gyda’u ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned. Bydd plant yn chwarae yn unrhyw le ac ym mhobman, felly mae mynediad i fannau a lleoedd chwareus o safon yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd a’u datblygiad, gan gynnig cyfleoedd i roi hwb i iechyd corfforol yn ogystal â lles meddyliol.
Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn galw am fannau i chwarae sy’n:
- Gynhwysol a chroesawus i blant ac arddegwyr o bob oed a gallu
- Creu cymdogaethau chwareus, diogel ble gall plant chwarae’n rhydd bob dydd
- Mwyafu’r potensial ar gyfer chwarae mewn ysgolion, gofal plant, a lleoliadau ieuenctid
- Cael eu siapio gan leisiau, anghenion a phrofiadau’r plant a’r arddegwyr eu hunain
- Cefnogi chwarae sy’n hybu hwyl, cyfeillgarwch, bod yn fywiog, mwynhau byd natur, a chreu ymdeimlad cryf o berthyn
- Annog teuluoedd, gofalwyr, a chymunedau i ddod ynghyd trwy chwarae ar draws y cenedlaethau.
Mae gan ein plant a’n harddegwyr i gyd hawl i chwarae – ac maent yn haeddu cael amser, lle, rhyddid, a chyfle i wneud hynny, bob dydd. Y
Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn annog teuluoedd, arweinwyr cymunedol, cynllunwyr, datblygwyr, a phawb sy’n siapio bywydau plant i eiriol dros fannau gwell i chwarae. Gyda’n gilydd, gallwn greu byd cynhwysol, mwy chwareus ble gall pob plentyn dyfu, ffynnu, a pherthyn.
Cymryd rhan
Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2025 a #MannauIChwarae.
Mae’n Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer rhoi digon o amser, lle a rhyddid i blant chwarae ar Ddiwrnod Chwarae. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn wedi eu hanelu at bobl sy’n gweithio ym mhob lleoliad ble mae plant yn chwarae.