Chwarae
Chwarae a risg
Mae plant yn chwilio am risg ac ansicrwydd yn eu chwarae. Maent yn cael eu denu at her, newydd-deb, a’r annisgwyl. Mae chwarae a drefnir yn bersonol yn helpu plant i ymateb i sefyllfaoedd anodd neu newidiol mewn modd hyblyg.
Mae’r gronfa gadarn o dystiolaeth am chwarae plant yn dangos bod cymryd risg yn dod â nifer o fuddiannau, yn cynnwys:
- ehangu sgiliau
- datblygu capasiti corfforol ac emosiynol
- profi canlyniadau eich gweithredoedd.
Mae risg yn rhan hanfodol, naturiol a gwerthfawr o chwarae plant.
Polisïau perthnasol
Yn Sylw Cyffredinol rhif 17, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi bod ansicrwydd a her yn ddau o nodweddion allweddol chwarae. Mae’n pwysleisio: ‘Er na ddylid gadael i blant wynebu niwed wrth gyflawni eu hawliau o dan erthygl 31, mae rhywfaint o risg a her yn rhan annatod o chwarae a gweithgareddau hamdden ac mae’n elfen angenrheidiol o fuddiannau’r gweithgareddau hyn.’
Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod plant yn cael eu geni gyda’r awydd i chwilio am gyfleoedd i gymryd risgiau. Mae’n datgan bod hyn yn rhan hanfodol o chwarae a dysg. Mae cyfarwyddyd statudol Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae yn dweud bod rhaid i amgylchedd chwarae o safon gynnwys cyfleoedd graddol i blant o bob oed i fentro, ar lefel gorfforol ac emosiynol hefyd.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn annog agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant. Mae’r HSE yn datgan yn glir y dylai unrhyw un sy’n cynllunio neu sy’n darparu cyfleoedd chwarae anelu i bwyso a mesur y risgiau a’r buddiannau, yn hytrach nag osgoi risg yn gyfan gwbl. Mae’r HSE yn mynd ymlaen i ychwanegu y dylai ‘pobl sy’n darparu cyfleoedd chwarae ganolbwyntio ar reoli’r gwir risgiau, tra’n sicrhau neu’n cynyddu’r buddiannau – ac nid ar y gwaith papur’.
Mae asesiadau risg, a gyflwynwyd yn y DU gyda Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, bellach yn gyffredin. Fe wnaeth Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1992 ac 1999 asesiadau risg yn amod penodol ar gyfer pobl sy’n rheoli lleoliadau a mannau chwarae.
Rôl oedolion
Mae plant angen ac eisiau rhyw lefel o risg. Mae chwarae’n ffordd allweddol i blant brofi ac asesu eu mentro graddol eu hunain. Fodd bynnag, mae plant yn y broses o ddatblygu eu crebwyll personol, felly mae angen i oedolion ystyried os yw risg o fewn lefelau cyrhaeddiad cyfredol plentyn.
Dylai pob plentyn gael cyfleoedd i brofi neu greu ansicrwydd, bod yn anrhagweladwy, a chymryd risg fel rhan o’u chwarae. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu gosod plant mewn perygl o niwed difrifol.
Mae risg a her yn ddymunol, ond ’dyw peryglon anaddas ddim. Felly, mae gan oedolion ddyletswydd i sicrhau diogelwch plant. Mae derbyn risg fel rhan annatod o chwarae plant yn helpu oedolion gydag asesu risg.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am asesu risg mewn chwarae plant yn yr adnoddau isod.
Adnoddau
Chwarae a Hamdden Plant – Hyrwyddo Agwedd Gytbwys
Mae’r datganiad lefel-uchel hwn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn hyrwyddo agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant.
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu
Mae’r canllaw hwn gan y Play Safety Forum wedi ei anelu at y bobl hynny sy’n gyfrifol am reoli darpariaeth chwarae, a’r bobl hynny sy’n rhan o ddylunio a chynnal a chadw darpariaeth chwarae. Mae’n dangos sut all darparwyr chwarae ddatblygu agwedd gytbwys tuag at reoli risg, sy’n ystyried y buddiannau yn ogystal â’r risgiau.
Ffurflen Asesu Risg-Budd
Mae hon yn ffurflen hawdd i’w defnyddio i helpu darparwyr chwarae i daro cydbwysedd rhwng buddiannau gweithgaredd gydag unrhyw risg cynhenid. Mae’n ystyried y risgiau a hefyd yn cydnabod buddiannau profiadau chwarae heriol i blant a phobl ifanc.
Mae esiampl wedi ei chwblhau – sy’n edrych ar siglen mewn coeden – o’r Ffurflen Asesu Risg-Budd ar gael hefyd gan y Play Safety Forum.
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: datganiad sefyllfa
Mae’r datganiad sefyllfa hwn gan y Play Safety Forum yn egluro buddiannau cymryd risg ac mae’n egluro rhai o’r pwyntiau y mae llawer o ddarparwyr chwarae’n eu cael yn anodd.