Archwiliwch
Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd ar gyfer gwaith chwarae wedi eu cyhoeddi. Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae yn gyfres o safonau sy’n amlinellu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar weithwyr chwarae mewn nifer o feysydd gwaith.
Bydd y NOS newydd yn cael eu defnyddio i ddiweddaru cymwysterau gwaith chwarae. Gall gweithwyr chwarae a chyflogwyr hefyd eu defnyddio i ddatblygu hyfforddiant, swydd ddisgrifiadau ac i asesu safon ymarfer gwaith chwarae.
Ers diwedd 2024 mae Chwarae Cymru wedi bod yn arwain ar adolygu’r NOS ar gyfer gwaith chwarae, ar ran Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU. Ynghyd â’r NOS, mae’r consortiwm hefyd wedi cyhoeddi Map Swyddogaethol a Geirfa.
Mae’r gyfres gyfan o NOS ar gyfer gwaith chwarae ar gael ar Fasdata Safonau a Fframweithiau’r DU.
Dywedodd Chwarae Cymru:
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) terfynol bellach wedi’u cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses adolygu, ac i’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a fynychodd y digwyddiadau ymgynghori. Hoffem ddiolch yn arbennig i Jane Hawkshaw, a fu’n Gadeirydd Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn ystod y broses adolygu, a chroesawu Karen Benjamin fel y Cadeirydd newydd.’