Archwiliwch
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae y Cenhedloedd Unedig – syn digwydd ar 11 Mehefin – yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles. Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth byd-eang o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.
Her Chwarae 31
Mae’r Her Chwarae 31 yn alwad i bob ysgol ledled y DU ac Iwerddon i roi 31 munud yn fwy i chwarae ar 11 Mehefin. Trwy ymestyn amserau egwyl a chefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, gall ysgolion ddangos eu cefnogaeth i rym chwarae, a’u parch tuag at hawl plant i chwarae.
Mae hon yn alwad i weithredu gan yr UK Children’s Play Policy Forum, mewn cydweithrediad gyda phump cangen yr International Play Association (IPA) yn y DU ac Iwerddon: IPA Cymru Wales, IPA England, IPA Ireland, IPA Northern Ireland, ac IPA Scotland. Mae Chwarae Cymru yn aelod o’r UK Children’s Play Policy Forum.
Adnoddau
Gellir defnyddio adnoddau Chwarae Cymru i godi ymwybyddiaeth – cyn y diwrnod ac ar y diwrnod – ac i gefnogi lleoliadau a gofalwyr i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, a phob diwrnod.