Archwiliwch
Mae Streets for Kids yn ymgyrch ledled Ewrop gan Clean Cities yn galw am strydoedd diogel a hygyrch i bawb, yn enwedig o amgylch ysgolion.
Dros y pedair blynedd diwethaf mae mwy na 380,000 o bobl wedi ymuno yn yr ymgyrch, gan arwain at weithredu dros 300 o Strydoedd Ysgol a chynllunio 300 arall. Nawr yn ei bumed flwyddyn, mae Streets for Kids yn gofyn i rieni, athrawon a phlant mewn dinasoedd ledled Ewrop alw am fwy o Strydoedd Ysgol.
Bydd diwrnodau gweithredu yn digwydd ledled y DU a gweddill Ewrop drwy gydol mis Mai. Mae rhagor o wybodaeth am drefnu digwyddiad – ac adnoddau i gefnogi – ar gael ar wefan Clean Cities.
Mae Strydoedd Ysgol yn fannau hygyrch o amgylch ysgolion lle mae cerdded a beicio yn cael blaenoriaeth dros gerbydau modur ar adegau gollwng a chasglu. Mae Strydoedd Ysgol yn darparu manteision iechyd uniongyrchol i blant, trwy leihau llygredd aer yng nghyffiniau’r ysgol, lle maent yn treulio rhan fawr o’u diwrnod, ac annog teuluoedd i newid o yrru i gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus.
Am wybodaeth am strydoedd chwarae gweler y cyhoeddiadau hyn gan Chwarae Cymru: