Archwiliwch
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn lansio Chwarae o Safon – marc ansawdd gwaith chwarae newydd Chwarae Cymru.
Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae newydd Chwarae Cymru. Bwriedir i Chwarae o Safon gael ei ddefnyddio gan leoliadau gwaith chwarae gaiff eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ogystal ag mewn lleoliadau anrheoledig a’r rheini sy’n ymarfer gwaith chwarae mewn lleoliadau chwarae amhenodedig.
Dyfernir dau wahanol farc ansawdd gwaith chwarae, y naill yn canolbwyntio ar ymarfer a’r llall ar bolisi. Gall lleoliadau gwaith chwarae weithio tuag at un neu ddau o’r dyfarniadau hyn:
- Chwarae o Safon – marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae
Mae hwn yn asesu:
- profiadau chwarae plant
- yr amgylchedd gwaith chwarae.
Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau sy’n defnyddio agwedd gwaith chwarae neu y mae eu staff wedi cwblhau hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae ac sydd am arddangos ymarfer gwaith chwarae da. Yn ogystal â lleoliadau gwaith chwarae penodedig, gall hyn gynnwys darpariaeth gwaith ieuenctid, gofal plant, addysg, chwaraeon ac iechyd hefyd.
- Chwarae o Safon – marc ansawdd polisi gwaith chwarae
Mae hwn yn asesu:
- polisi ac ymarfer gwaith chwarae
- y sefydliad gwaith chwarae.
Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau y mae eu prif ddiben yn cynnwys cefnogi chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau a reoleiddir ac anrheoleiddiedig sy’n diffinio eu hunain fel un ai darpariaeth beripatetig neu rodwyr chwarae, meysydd chwarae antur, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gwaith chwarae mynediad agored neu chwarae stryd. Mae’n canolbwyntio ar y polisïau, y gweithdrefnau a’r ethos sefydliadol sy’n cefnogi ymarfer gwaith chwarae. Er mwyn ennill y marc ansawdd hwn, bydd lleoliadau eisoes wedi derbyn y marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae.
Mae Chwarae o Safon yn ychwanegu at ac yn disodli dau o adnoddau Chwarae Cymru:
- Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae (2001)
- Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol (2002).
Dysgu mwy
Cysylltwch gyda ni i ddysgu mwy am sut y gallwch ymgeisio am farc ansawdd Chwarae o Safon, a chostau cyfredol.
Dechrau arni
Mae Chwarae o Safon yn cynnwys hunanasesiad yn ogystal ag asesiad allanol. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y marc safon gwaith chwarae a gwahanol gamau’r broses. Mae’r Fframwaith hunanasesu a thystiolaeth yn ffurflen y gellir ei chwblhau i gasglu ynghyd tystiolaeth ar gyfer asesiad allanol.
Lawrlwytho canllaw Chwarae o Safon